Wythnos diwetha', mi gyrhaeddodd Olew $ 135 y barel. Tro cynta erioed. Dwbli mewn blwyddyn. Mae son fod rhai yn manipiwleiddio'r pris a'i fod wedi codi'n rhy bell. Efalle fod hynny'n wir. Ond, tebyg iawn fod amser olew fel ynni rhad wedi dod i ben. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf 'ma yn gwybod fod Tseina yn dihuno'n economaidd o'i trwmgwsg heb son am India, Indonesia, Vietnam..........Mae hyn yn mynd i rhoi lot fwy o bwyse ar gyflenwad olew yn y dyfodol. Dwi wedi gweld mwy nag un yn son am $ 200 yn 2009! Ta beth, mi fydd yn pris yn cyrraedd y lefel fydd yn ein gorfodi ni i newid ein ffordd o fyw. Yn yr UDA mae'n rhaid cael y ceir mawr sy'n llyncu tanwydd a byw mewn maestrefi a trafaeli mewn i'r dinasoedd i weithio a siopa. Mae'r un peth yn digwydd yn y rhan yma o'r byd. Mae'n ffenomenom digon cyffredin i weld teulu yn yr ardal 'ma yn trafalei 10, 20, 30 milltir i'r Tesco neu Morrisson's agosa heb feddwl dwywaith am gost y tanwydd. Ond mae hyn yn sicr ar fin newid. Rwy'n credu bydd goblygiadau pell gyrhaeddol i'r ardaloedd gwledig. Meddai rhywun wrthyf ar fforwm arall, efalle y daw amser pan yr unig bobl fydd yn byw yn yr ardaloedd gwledig fydd y rhai fydd a rheswm dros fod yno.....ffermwyr ac ati. Mae na lot o lefydd yng nghefn gwlad na fyddai wedi ymddangos heb law am ddyfodiad y trenau.......maen't wedi goroesi cyfnod y trenau oherwydd ymddangosiad y car. Mae Crymych yn esiampl o'r fath yma o le lle tyfodd pentref o gwmpas gorsaf drenau.
Reit, beth wy'n ceisio dod ato yw hyn. Mae angen i'r llywodraeth hy y cynulliad i ffuddsoddi llawer o arian mewn trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cadw'r ardaloedd gwledig yn fwy. Dwi'n gwybod eu bod wedi dechrau drwy agor y linell o Lyn Ebwy i Gaerdydd.....ond mae angen gwneud rhagor. Dwi'n cofio IWJ yn ymddangos ar Taro'r Post dwi'n meddwl a rhywun yn gofyn iddo a oedd ganddo gynlluniau i agor rheilfffordd o Abertawe i Aberystwyth. Nag oedd medde fe. Wel Ieuan, gwna. rhywbeth cyn i'r argyfwng tanwydd i ddigwydd. Dechreuad byddai agor llinell o Gaerfyrddin i Aberystwyth.......neu'n well beth, agor llinell hefyd o Abergwaun lan drwy Aberteifi ac i fyny i Aberystwyth yn ogystal. Gewch chi ogleddbersonnau benderfynnu le maen'n mynd wedyn.