Rwy'n chwilio am ddyfyniad. Byrdwn y dyfyniad yw:
Os am roi bet ar fodolaeth Duw, y peth doethaf i'w gwneud yw cefnogi'r achos dwyfol. Os nad yw Duw yn bod, ni fydd dy gred yn gwneud gwahaniaeth tragwyddol. Os yw Duw yn bod ac yr wyt yn anghrediniwr, gall wneud uffern o wahaniaeth tragwyddol.
Mae gen i ryw syniad yng nghefn fy meddwl mai'r dramodydd Ffrenig Victor Hugo bia'r dyfyniad, ond rwy'n ansicir.
Er chwilio fy holl lyfrau dyfyniadau, a Gwglo pob math o amrywiadau ar y syniad, rwy'n methu'n lan cael hyd i'r dyfyniad. Oes yna aelod o'r Maes yn gwybod y dyfyniad rwy'n chwilio amdani?
O.N.
Cyn i'r corachod o'r naill ochor neu'r llall glanio ar yr edefyn fel clêr ar dom, chwilio am ddyfyniad ydwyf, nid ffrae am rinweddau neu ddiffyg rhinweddau'r syniad.