Rhys Llwyd a ddywedodd:Beth yw dadl swyddogion y capel felly?
Yn ôl y llythyr twrnai a derbyniwyd gan denant y tŷ, achos y capel yw eu bod yn ei ddigartrefi oherwydd bod ganddynt hawl gyfreithiol i wneud hynny heb roi achos.
Yn fy nhybiaeth i tydi hynny ddim yn digion da i gapel, mae gan gapel dyletswydd i ymddwyn yn ôl safonau moesol yn ogystal â llythyren gyfraith gwlad.
Yn ol dy
sylw ar y post yr wyt ti di cael gwybod am y wir reswm dros wneud y gwron yn ddigartref . Mae'r gwirionedd yna wedi tymheru dy wylltineb tuag at swyddogion y capel ar ôl clywed eu hachos nhw. Rwy'n sicr byddai'r tenant ei hun yn hoffi gwybod be oedd y rhesymau hyn, gan nad oes neb wedi trafferthu eu rhannu ag ef.