Duw ar ei wyliau?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Chickenfoot » Sad 07 Meh 2008 12:27 pm

Dadlau crefyddol - soooooo 2007. :crechwen:
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Sad 07 Meh 2008 9:40 pm

Nid dadleuon hurt HRF. Teimlo dwi i eich bod yn penderfynu pa weithredoedd sydd lawr i Dduw pan ei fod yn eich siwtio. Mae hwn yn rhyfedd i mi a llawer o anffydwyr eraill. Paid a diystyru ein safbwynt fel "hurt". Nid oes rhesymeg tu ol i'th dadleuon. Pryd ydy Duw yn ymyrryd ar y Ddaear? Byth? Ydyw'n aros tan i chi farw i roi Ei feirniadaeth?

A Chickenfoot, Sooooooo 2007? Bydd dadle crefydd yn mynd mlan am sbel yn anffodus. Gallai weld fydd y dadle'n soooooo 2010. Efallai ar ol i'r genedlaeth hon fynd ar ei ffordd i oblivion, bydd un arall mwy goleuedig, rhesymegol yn cymryd ein lle. Ond hir aros.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 08 Meh 2008 1:15 am

Chickenfoot a ddywedodd:Dadlau crefyddol - soooooo 2007. :crechwen:


Hen Rech Flin, ydwyf - Sooooo 1857 :!:

Os ydy dadleuon am grefydd mor allan o ffasiwn paham bod un mor drendi â thi yn cyfrannu atynt?

Nid dadleuon hurt HRF. Teimlo dwi i eich bod yn penderfynu pa weithredoedd sydd lawr i Dduw pan ei fod yn eich siwtio. Mae hwn yn rhyfedd i mi a llawer o anffydwyr eraill. Paid a diystyru ein safbwynt fel "hurt". Nid oes rhesymeg tu ôl i'th dadleuon. Pryd ydy Duw yn ymyrryd ar y Ddaear? Byth? Ydyw'n aros tan i chi farw i roi Ei feirniadaeth?


Sori bach! Doeddwn i ddim yn sylwi mae hawl unigryw gan anghredinwyr oedd yr hawl i alw barn y rhai sy'n anghytuno a nhw yn hurt!

Rhyfedd yndi, bod anghredinwyr yn beio Duw am beidio ag ymyrryd pan fo trychineb yn digwydd ond ddim am ei ddiolch am ymyrryd pan fo trychineb yn cael ei hosgoi?

Fe ddywedodd fy nghyfaill Dr Dafydd Alun Jones wrthyf unwaith mae gwaith meddygol oedd y gwaith mwyaf diddiolch sy'n bod. Os yw'r claf yn gwella, Duw sy'n cael y diolch. Os yw'r claf yn marw, y doctor sy'n cael y bai. Fe ymddengys bod dadl DA Soooo 1980 bellach, y gwrthwyneb yw'r achos yn 2008!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Mr Gasyth » Sul 08 Meh 2008 10:05 am

Oni fyddwn yn ymddangos yn hurtyn petawn yn dewed nid ydwyf yn credu mewn achosion naturiol o'r herwydd? Trwy ladd Nain, fe syrthiodd achos natur i lefel is nag oeddwn yn disgwyl, felly dydy natur, yn amlwg, ddim yn bodoli!

Dadleuon o'r un safon hurt sy'n cael eu cynnig uchod.


Dwi heb ymyrryd ers tawlm yn y seiat yma, ond rhaid ymateb i hyn!

Tydi anghredinwyr ddim yn honi fod i natur rinweddau cariadus a chyfiawn fel y mae credinwyr yn eu rhoi i Dduw. Mae pawb yn derbyn fod natur yn gallu bod yn greulon - tydi hyn ddim yn negydu ei fodolaeth o gwbl oherwydd mae marwolaeth a dioddefaint yn ran ganolog o natur.

Ond mae credinwyr yn credu mai Duw sydd y tu ol i'r creulondeb yma - Duw honedig cariad a chyfiawnder. Mae'r anghrediniwr yn gweld y paradocs yma yn ormod ac yn methu credu yn y fath beth.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Sul 08 Meh 2008 5:38 pm

Diolch Mr Gasyth.

Duw a ddywedodd:Rhyfedd yndi, bod anghredinwyr yn beio Duw am beidio ag ymyrryd pan fo trychineb yn digwydd ond ddim am ei ddiolch am ymyrryd pan fo trychineb yn cael ei hosgoi?


Dwi heb feio Duw am unrhyw beth! Dwi ddim yn credu Ynddo. Gofyn am farn a cheisio gwneud synnwyr ohono oeddwn i. Rwyt wedi rhoi dy safbwynt, ond dwi dal ddim yn deall - sori HRF. Pan fydd trychineb yn cael ei osgoi, a wyt yn dweud taw gwaith Duw yw hwn neu natur (fel trychinebau). Hynny yw, ai natur = trychinebau a Duw = osgoi trychinebau? Dwi sicr nid yw'r ateb mor syml a hyn ac mae sawl person wedi ceisio ag esbonio hyn eisoes drwy ddadleuon ddiwinyddol, sydd, yn anffodus, yn anodd i mi ddilyn.

Sut ydy person yn gwybod taw gwaith Duw yw unrhyw weithred neu ddigwyddiad? Sori, i mi, mae'r edefyn wedi syrthio lawr i'r lefel hwn eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 10 Meh 2008 4:59 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Oni fyddwn yn ymddangos yn hurtyn petawn yn dewed nid ydwyf yn credu mewn achosion naturiol o'r herwydd? Trwy ladd Nain, fe syrthiodd achos natur i lefel is nag oeddwn yn disgwyl, felly dydy natur, yn amlwg, ddim yn bodoli!

Dadleuon o'r un safon hurt sy'n cael eu cynnig uchod.


Dwi heb ymyrryd ers tawlm yn y seiat yma, ond rhaid ymateb i hyn!

Tydi anghredinwyr ddim yn honi fod i natur rinweddau cariadus a chyfiawn fel y mae credinwyr yn eu rhoi i Dduw. Mae pawb yn derbyn fod natur yn gallu bod yn greulon - tydi hyn ddim yn negydu ei fodolaeth o gwbl oherwydd mae marwolaeth a dioddefaint yn ran ganolog o natur.

Ond mae credinwyr yn credu mai Duw sydd y tu ol i'r creulondeb yma - Duw honedig cariad a chyfiawnder. Mae'r anghrediniwr yn gweld y paradocs yma yn ormod ac yn methu credu yn y fath beth.


Ond sail dy baradocs yw bod marwolaeth a dioddefaint yn bethau drwg wrth eu natur! Rwy'n credu mai fy marwolaeth bydd fy mhorth i'r Nefoedd a bod pob dioddefaint daw i'm rhan, cyn hynny, yn brawf o'm ffydd.

Yr hyn sy'n fy nrysu yw sut y gelli ddadlau bod marwolaeth a dioddefaint yn bethau drwg a chreulon os oes Duw, ond dyna fo rhan o natur, di-ddrwg, anghreulon, naturiol ydynt os nad oes Duw?

Ti'n deud bod natur yn deg os nad oes creawdwr ond yn fastard os oes creawdwr!

Mae dy farn yn awgrymu nad wyt yn hollol hapus efo’r cardiau mae lwc natur wedi ei gyflwyno iti, ond nad ydwyt yn hollol sicr os mae lwc sy'n gyfrifol.

Rwyt am feio Duw. Ond cyn beio Duw mae'n rhaid iti gredu ynddo, ac mae hynny'n gam rhy anodd iti!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Mr Gasyth » Maw 10 Meh 2008 12:18 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond sail dy baradocs yw bod marwolaeth a dioddefaint yn bethau drwg wrth eu natur! Rwy'n credu mai fy marwolaeth bydd fy mhorth i'r Nefoedd a bod pob dioddefaint daw i'm rhan, cyn hynny, yn brawf o'm ffydd.


Digon teg. Tydw i ddim yn meddwl fod marwolaeth yn beth drwg wrth ei natur (i rai mae'n fendith), ond yn sicir mae galar yn beth amhleserus, a mae colli anwyliaid cyn eu hamser yn beth poenus a chreulon i'r credinwir ac anghredinwir fel eu gilydd.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr hyn sy'n fy nrysu yw sut y gelli ddadlau bod marwolaeth a dioddefaint yn bethau drwg a chreulon os oes Duw, ond dyna fo rhan o natur, di-ddrwg, anghreulon, naturiol ydynt os nad oes Duw?

Ti'n deud bod natur yn deg os nad oes creawdwr ond yn fastard os oes creawdwr!


Rydw i'n gyrru ar hyd ffordd mewn strom. Disgyn coeden ar fy nghar a'm lladd. Anffawd ofnadwy a mater o dristwch mawr a galar (gobeithio!). Ydi mae'n greulon arnaf i am teulu, ond ni ellir dweud fod y goeden na'r gwynt wedi bod yn fwriadol greulon, na wedi cynllwynio i'm lladd. Nid oedd ganddynt fwriad i wneud hynny. Anffawd, anlwc, felna ma hi, ma'r pethe ma'n digwydd.

Rwy'n gyrru ar hyd ffordd. Mae rhywyn yn torri coeden i lawr yn fwriadol fel ei bod yn disgyn ar fy nghar wrth i mi basio er mwyn fy lladd. Eto, mater o dristwch mawr a galar (gobeithio!). Anffawd, anlwc? Naci. Yn yr esiampl yma mae rhywyn a chanddo ei feddwl ei hun wedi mynd ati yn fwriadol i'm lladd, i dorri fy mywyd yn fyr, ac achosi poen a chrulondeb i'm teulu.

Mae'r sawl a dorrodd y goeden, boed ddyn neu Dduw, yn euog o greulondeb bwriadol (bastard, i ddfenyddio dy air di). Tydi'r gwynt ddim. Ti'n gallu gweld y gwahaniaeth siawns?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Maw 10 Meh 2008 1:01 pm

Diolch eto Mr G am osod mor glir yr hyn yr oeddwn am ei gyfleu.

HRF, rwyt wedi cael e mewn i dy ben bod anffyddwyr yn beio Duw. Dim o gwbl. Mae Duw, i mi, beth bynnag, yn amherthnasedd - does dim ystyr i'r gair.

Yr hyn sy'n fy niddori yw sut ydy person (credwr) yn gwybod y gwahaniaeth rhwng weithred Duw a digwyddiad naturiol? A ydy'n rhywbeth sydd modd dweud a sicrwydd? Os na, lle ydy sail eich crefydd os ydych erioed wedi profi llaw Duw?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 10 Meh 2008 3:28 pm

Duw a ddywedodd:Yr hyn sy'n fy niddori yw sut ydy person (credwr) yn gwybod y gwahaniaeth rhwng weithred Duw a digwyddiad naturiol?


Mae pethau (gwael) naturiol yn ganyliad i Bechod ac mae pethau (da) Duw yn ganlyniad i ras. Mae Duw yn ateb a delio gyda phechod a'i ganlyniadau trwy ei ras. Felly wrth ofyn y cwestiwn 'pam fod poen a dioddefaint yn bodoli?' y gwestiwn mewn gwirionedd yw: 'pam fod Duw wedi caniatau pechod?' Dwi ddim yn gwybod! Ond yr hyn dwi yn gwbod yw fod pechod yn bodoli, edrychwch o'n cwmpas, er fod y byd a'i drugareddau yn dda mae yna ginc ac y cyfan yn toes? Dydy popeth ddim cweit yn iawn. A phan fo trychineb fawr, neu bersonol, yn digwydd mae'r defaul cinc yna yn dod reit i flaenau ein llygaid. I fi fel Cristion dwi'n adnabod y cinc an-naturiol yna fel pechod ac yn diolch i Dduw trwy ei ras am gynnig ateb. I'r anghredadyn dydy e yn ddim byd mwy na lwc wael.

Er mod i'n credu mewn Duw ac er mod i'n credu fod Duw wedi ennill y rhyfel mawr eisoes dwi hefyd yn credu yn y Diafol a'i waith sydd dal i ennill sgyrmishes bach fan hyn fan draw ond to evail gan fod Duw eisoes wedi ennill y rhyfel mawr.

Dwi'n gwybod nad ydy hynny yn ateb llawer o'r cwestiynnau sydd wedi cael eu codi; waeth i mi fod yn onest gyda fy hun nad ydw i'n gwybod yr atebion mwy nag anghredadyn, ond dwi'n gobeithio fod y gyffes bersonnol yma wedi esbonio rhywfaint o'm safbwynt i.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Maw 10 Meh 2008 5:05 pm

Diolch Rhys - ffantastig, dyna'r fath o ateb clir roeddwn yn gobeithio amdano. Felly, i ofyn yn bellach, gan eithrio effaith y Diafol am nawr:
A'n pechodau'n ni sy'n uniongyrchol gyfrifol am drychinebau'r byd a'i ras sy'n caniatau dihangfa ohonynt? Os felly, wyt yn dweud, nid oes pethau naturiol yn digwydd? Ei gynllun Ef (neu Ei ymateb Ef) yw sail pob digwyddiad?

Diddorol. A fyddai Cristnogion eraill yn cytuno?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai