Cerdded/Heicio yn Eryri

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan y nionyn » Maw 04 Maw 2008 4:17 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
y nionyn a ddywedodd:Gesdi hwyl felly!? Ma Tryfan yn fynydd gwych, sa chdi'n cytuno? Eshi'm mor uchel a chdi dydd Sad, dechrau'n Beddgelert am Moel Hebog yna ymlaen i Moel yr Ogof, Moel Lefn ac wedyn lawr am Bwlch-y-ddwy-elor. Welishi Morus y Gwynt ar y ffordd fyd!!


Wnes i fwynhau'n fawr, er roedd y daith yn bryderus ar adegau gyda'r gwynt cryf. O edrych yn ol doeddw ni ddim rili digon profiadol i neud Tryfan yn enwedig felly yn y gwynt, ond fe wnes i fwynhau.

Meddwl mynd allan ddydd Gwener wythnos yma gan fod pethau mlaen genai ddydd Sadwrn - ydy mynyddoedd ardal Bedd'gel yn braf? O lle buasw ni'n cychwyn?


Sa chdi'n neud y r'un peth a neshi dydd Sad mae o reit braf a hamddenol, ond yn ol y rhagolygon ma'r tywydd yn mynd i fod reit hegar dydd Gwener! Dechreua wrth y bont uwch i fyny na'r Warws yn Beddgel, dilyna'r llwybr i Gopa Moel Hebog, yna i'r gogledd tuag at Moel yr Ogof (ma ogof Owain Glyndwr yn fama, er dwi rioed di bod yno chwaith) ac Moel Lefn. I fynd lawr, elli di unai fynd syth lawr Moel Lefn ac trwy'r goedwig yn ol i Beddgel, neu, cer tuag at Bwlch-y-ddwy-elor i chdi gael gweld yr hen chwarel yn fanno, sydd reit ddiddorol, yna y goedwig yn ol i Beddgel.
Yr Agwedd Yw Fy Mugail
Rhithffurf defnyddiwr
y nionyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Gwe 26 Awst 2005 2:30 pm
Lleoliad: Gwaelod y Fenai

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Ffigaro » Mer 21 Mai 2008 11:05 am

Mae llyfrau Peter Hermon yn wych ar gyfer syniadau cerdded.

http://amazon.co.uk/s/ref=nb_ss_w_h_/20 ... es&x=0&y=0

Ar bwnc crwydro mynyddoedd, oes unrhywun yn gwybod am fodolaeth unrhyw canllawiau yn y Gymraeg? Yr unig un dwi'n ymwybodol ohonni yw llyfr Ioan Bowen Rhys "Dringo Mynyddoedd Cymru" sydd bellach yn hen iawn, a dyw hi ddim yn mynd i'r fath fanylder â Hermon.
"Os dyma ffasiwn wlad yw Merica, Sir Fflint i mi!"
Ffigaro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Mer 21 Mai 2008 10:57 am
Lleoliad: Bangor

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 16 Meh 2008 11:47 am

I dop Carnedd y Filiast ac yna cerdded heibio Elidir Fawr i gyfeiriad Cwm Idwal. I lawr y llwybr at y llyn a dilyn yr hen lon(?)- Nant Ffrancon i Fethesda. Hyfryd. Hoff iawn o Eryri, ond o sbio ar fapiau'r Ordnance Survey mae'n amlwg fod yna lefydd llawer iawn mwy eang yn Yr Alban. Gellir clywed ceir yn pasio (a twats ar foto beics yn mynd fel ffyliaid) o lan Llyn Idwal. Trueni nad yw Eryri mor wyllt a hynny.
Ynys Enlli, Ynys Seiriol, Penmon, Yr Eifl, Penllyn, Mast Nebo(?), Yr Wyddfa o ongl hollol wahanol i'r hyn dwi wedi arfer efo, Y Carneddau, Pesda, Tryfan- dwisho prynu camera digidol! Diwrnod gwych a bythgofiadwy.
O.N. Gwelais stwmp sigaret ar y ffordd i lawr y llwybr yng Nghwm Idwal- hyn yn gwylltio rhywun!
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Nôl

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron