Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Postiogan Mr Gasyth » Maw 11 Maw 2008 5:23 pm

Dechre meddwl lle i fynd am wylie'r haf ma a ma rhain yn lefydd dwi wastad wedi bod isho ymweld a nhw.

Oes rhywyn wedi bod? Ydi hi werth mynd? Faint o amser sydd ei angen i'w gweld yn iawn? Unrhyw lefydd da i alw heibio ar y ffordd yno ac yn ol?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Postiogan Lletwad Manaw » Maw 11 Maw 2008 5:49 pm

Y traethau gorau yn Ewrob heb os!!!!

Benbecula, De Uist yn hyfryd gwerth mynd lawr i rheiny hefyd os ti yn Harris a Lewis ta beth. Mwy o Aeleg lawr fan hynny hefyd os wi'n deall yn iawn.
Lletwad Manaw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Sad 30 Hyd 2004 4:56 pm

Re: Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Postiogan S.W. » Mer 19 Maw 2008 8:25 pm

Di bod i Skye. Ynys neis iawn er na welai i lawr ohoni - mond mynd i angladd yn Elgol oeddwn i. Y bont yn llai nag oeddwn wedi ei ddisgwyl ond unwaith ti oddi ar y ffordd fawr yna mae'n ynys hardd iawn. Pentref Elgol yn fach dros ben, traddodiadol iawn a rhywfaint o Gaeleg iw glywed yno.

Gwerth mynd yn sicr.

Cymryd byddet ti'n hwylio o Oban i'r ynysoedd? Mae llywodraeth yr Alban newydd ostwng prisiau i hwylio o Oban i rhai o'r llefydd hyn felly mae'n amser dda i fynd. Wrth fy modd hefo Oban, un o'm hoff lefydd i ymweld a hi. Tafarndai da iawn yno! Y ddraig goch iw weld yn yr Oban Inn.
Golygwyd diwethaf gan S.W. ar Mer 19 Maw 2008 8:29 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Postiogan Chickenfoot » Mer 19 Maw 2008 8:27 pm

Skye, Lewis & Harris...swnio fel law firm.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 19 Maw 2008 10:46 pm

Rhaid i chi fynd i'r Ynys Gymylog (Sgei, an t-Eilean Sgitheanach) cyn hir, neu mae'n bosib y byddwch chi'n colli clywed swn yr Aeleg yno (mae dros hanner y boblogaeth y dyddiau 'ma yn tarddu o Loegr). Aidh, mae hi'n ddigon neis ac yn cynnwys mynyddoedd cyfuwch a'r Wyddfa (les Collines...)

Am Lewis (Leodhas), wel, mae hi'n boring - tipyn o windswept wastatir lle mae popeth ar gau ar y Sul. Ac, wrth gwrs, mae'n nhw'n siarad Gaelorseg yno, h.y. Gaeleg efo chryn dipyn o iaith y Feicingiaid ynddi. Ond rydw i'n credu fod 'na erddi rhododendron neis yno, ym ymyl Steòrnabhagh. Un o ardaloedd tlodaf Prydain, yn dlotach na Glasgau Mewnol e.e.

Mae'n wir fod traethau Uibhist a Tuath is a Deas yn wych, ond 'does 'na ddim lot o gyfle yno am dorheulo...

Harris (na Hearadh) dw i'm yn gyfarwydd a nhw. Mae na fwy o fryniau nag sy yn Lewis.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Postiogan geryrefail » Sad 21 Meh 2008 11:58 pm

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad o Glasgow i Oban (a'r golygfeydd yn wych).
Heb gar mae'r fferi yn hawdd iawn ac mae rhwydwaith drafnidiaeth bysiau o'r fferi yn wych ar bob ynys. Wrth gyrraedd ynys, bydd bws yn aros yno amdanoch - neu ddau os oes angen mynd i gyfeiriadau gwahanol.

Gwerth ymweld â Barraigh (Barra) - un o ynysoedd Catholig yr Alban. Ar ddechrau Gorffennaf mae gwyl y Feiss yn cael ei chynnal yno - gigs, dawnsio a gaeleg.

Pob lwc - ond edrychwch ymlaen i gael eich siomi gan leied o Gaeleg sydd i'w glywed.

Hwyl
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

Re: Ynysoedd Skye, Lewis a Harris

Postiogan Garreg Lwyd » Maw 24 Meh 2008 10:08 am

Wedi bod droeon (gan gynnwys ar fy mis mel) ac yn meddwl bod yr Ynys Hir yn nefoedd ar y ddaear. Mae angen pythefnos dda i werthfawrogi'r cyfan, ond fe allet ti ddewis gwneud rhan yn unig eleni, a mynd yn ôl eto flwyddyn nesa – dw i ddim yn meddwl y gweli di bopeth mewn un gwyliau.

Fe allet fynd mas o Uig ar ynys Skye i Lochmaddy gyda Cal Mac. Bydd angen i ti aros yn Taigh Chearsabagh, y ganolfan grefftau / gelfyddydau yn Lochmaddy cyn symud ymlaen – dwy oriel, siop ddifyr (adran lyfrau dda) a chaffi croesawgar. Yna, os wyt ti'n gyfoethog, cer i aros yng ngwesty Tigh Dearg yn Lochmaddy. Os wyt ti'n dlotach, ceisia gael ty hunan-arlwyo. Mae Gogledd Uist yn baradwys i adarwyr – Balranald, yn enwedig. Ond mae'r ynys i gyd yn rhyw le hanner tir-hanner dŵr, oherwydd bod cynifer o lynnoedd a lochans bach, heb sôn am yr arfordir trofaus. Gwerth mynd draw am Solas (Co-op da yma, ond, fel pobman arall, ar gau ar y Sul) a'r traethau tywod gwyn bendigedig. Cerdda draw i ynys Vallay pan fydd y llanw mas.

Greinitobh hefyd yn werth mentro mas iddo – does dim byd yno ond byd natur ar ei orau a llonyddwch i'r enaid.

Ymlaen â ti wedyn lawr yr ochr orllewinol gan obeithio ei bod hi'n glir fel y galli weld St Kilda ar y gorwel (adeg y machlud yw'r adeg gorau i'w weld).

Os wyt ti'n ffit, mentra ddringo i ben mynydd Eval, er mwyn cael golygfeydd ysgubol a phanoramic o'r holl ynysoedd a draw am Skye hefyd.

Lawr wedyn am Benbecula, ar draws y causeways – fan hyn, ac i bobman o'r de, fe gei di bethau ar agor ar y Sul. Unwaith eto, does dim byd penodol i'w weld – mae fyny i ti i ymgolli ym myd natur er mwyn cael mwynhad.

Mae'n werth gyrru'n hamddenol ar hyd De Uist i lawr i Eriskay i gael diod yn yr Am Politician, lle gellir gweld hen boteli wisgi hanes gwir Whisky Galore! Byddwn yn awgrymu hefyd y gallet fynd drosodd ar y fferi o Eriskay i Barra – ynys fach berffaith sy'n ryw fath o Hebrides in minature, yn ôl rhai.

Ond mae gen ti'r dewis o fynd o Ogledd Uist am y gogledd hefyd, a chroesi o Berneray draw i dde Harris – An Tobh. Mae Harris yn wyllt – mynyddoedd mawr, traethau dramatig ac mewn mannau, fel bod ar blaned arall! Gwerth galw gyda phobl sy'n gwneud Harris Tweed yn Plockrapol.

Nid y trefi yw'r cryfder – Tarbert yn lle digon cysglyd. Lewis yn fwy gwastad a llai deniadol ar un olwg – lle gwag iawn (er bod Uig yn y gorllewin yn drawiadol. Stornoway yn eitha difyr – yn sicr y dref fwyaf bywiog (yn enwedig ar nos Sadwrn!). Canolfan gelfyddydau ardderchog yma, serch hynny, An Lanntair.

Llawer mwy i'w ddweud – e.e. goleudy Butt of Lewis ac ardal Eoropie; Tolsta; ynysoedd bach fel Scalpay a Great Bernera.

Os wyt ti eisiau gwybod rhywbeth penodol, plis gofynna!
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams
Garreg Lwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 10:25 am
Lleoliad: Rhydaman


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron