1. Faint o arian poced oeddech chi’n derbyn fel plentyn?20c bob dydd Sadwrn, o pan o'n i tua 7 oed.
2. Wnaethoch chi erioed gynilo arian poced er mwyn prynu rhywbeth arbennig? Beth?'Nes i safio arian ges i fel anrheg Nadolig pan o'n i tua 9 i brynu 'The Jolly Postman', ond 'nath Mam ddala fi cyn i fi gyrredd y til yn Smiths a stopio fi rhag prynu fe achos bod e ar gyfer plant llai na fi
3. Beth yw’r gwyliau cynharaf ‘dych chi’n cofio o’ch plentyndod?Cofio whilo am y 'Lincoln Imp' yn y Gadeirlan ('nethon ni ddim ffeindio fe.)
4. Pryd oedd y tro cyntaf i chi fynd ar wyliau heb eich rhieni?Gwersyll Pentywyn pan o'n i tua 9... 'Nethon ni syrffo, abseilo, ogofa, dysgu am y môr a recordio sioe radio am Dic Penderyn
5. Beth oedd y ddiod feddwol cyntaf i chi archebu mewn bar?Lime Bacrdi Breezer. Rolling Mill, Llanelli. c. 1998