Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Iau 03 Gor 2008 7:25 pm

Mae'n flin da fi am safon fy iaith ysgrifenedig. Dw i'n gymro sy'n dod o deulu di-gymraeg yn wreiddiol felly dwi ddim yn teipio yn dda iawn yn Gymraeg. Dwi'n siarad yn rhugl ond dwi ddim wedi cael digon o ymarfer ysgrifennu.

Dw i wedi tynnu llun o arwydd yn Abertawe. Ac mae fy ffrindiau cymraeg yn meddwl bod yr arwydd yn ddoniol iawn.

http://www.flickr.com/photos/95685976@N00/2633597062/

Ond dangosodd un o fy ffrindiau'r llun i rywun o'r gogledd. Wellodd e ddim yr ystyr sy'n amlwg i bobl yn y de.

Gogleddwyr Beth dych chi'n ei feddwl?
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan bartiddu » Iau 03 Gor 2008 8:54 pm

http://www.rhegiadur.com/dangos_rheg.php?id=191 <-----------------<<< clicia yma :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan Doctor Sanchez » Iau 03 Gor 2008 9:43 pm

Dan ni yn Mhen Llyn yn deud halio am grogi'r clagwydd
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Gwe 04 Gor 2008 8:55 am

Ro'n i yn gwbod ystyr y gair y fy lleoliad. Mae'r arwyddion yn agos at y ganolfan gymraeg Ty^ Tawe yn Abertawe ac mae llawer o bobl wedi eu gweld. ( Mae grwp ohonyn nhw ar hyd Ffordd y Brenin sy'n ffordd ddeol yng nghanol y ddinas.)
O ganlyniad i'r faith bod nhw'n agos i Dy^ Tawe, mae'r arwyddion yn eitha enwog yn y gymuned gymraeg.

456999 (yr rhif ar yr arwyddion) yw rhif yr heddlu!

Fell llawer o bobl sy wedi dysgu dwi'n feindio bo' fi ddim yn gallu sillafu pan dw i'n trial teipio. Mae'n od iawn. Mae rhaid i fi edrych ar bethau yn ofalus iawn am ryw reswm. Dw i'n siarad yn eitha rhugl. Dwi wedi cwrdd a^ phobl sy ddim wedi sylweddoli bo' fi wedi dysgu. Ro'n i'n meddwl y dylwn i dweud bo' fi wedi dysgu achos ro'n i'n barnu cymraeg pobl eraill. Ro'n' i'n gwybod bo' fi'n mynd i gamTHreiglo. :-)

Ro'n i eisiau dargfanfod beth mae gogleddwyr yn meddwl
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 06 Gor 2008 12:01 am

Rwy'n byw yn y Gogledd ac roeddwn i a'r ddau hogyn 'cw yn ein dyblau yn chwerthin am yr arwydd, cyn inni sobri a meddwl am y diffyg parch i'r iaith mae'r fath yma o gyfieithu gwachul yn amlygu.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan sian » Sul 06 Gor 2008 8:03 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwy'n byw yn y Gogledd ac roeddwn i a'r ddau hogyn 'cw yn ein dyblau yn chwerthin am yr arwydd, cyn inni sobri a meddwl am y diffyg parch i'r iaith mae'r fath yma o gyfieithu gwachul yn amlygu.


Wel, dydi'r arwydd ddim yn dangos diffyg parch at yr iaith. Mae'r arwydd yn hollol gywir. Yr hyn y mae yn ei ddangos yw diffyg dealltwriaeth o gyweiriau'r iaith a sut y mae'r iaith yn cael ei defnyddio heddiw.

Geiriadur yr Academi: tow: halio, llusgo, towio; gogledd orllewin: tuo; My car's been towed away by the police: Mae'r heddlu wedi halio fy nghar i ymaith.
towpath: llwybr halio
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Sul 06 Gor 2008 12:02 pm

Mae'n gywir i ddweud bod "halio" yn golygu "tow" ond cyn i fi roi'r llun ar y we. Dangosais i'r llun i lawer o gymru cymraeg natiriol fy mod i'n nabod. Feindiodd pawb y llun yn ddoniol.

Mae llawer o arwyddion drwg o gwmpas Abertawe. Mae llwyth ohonyn nhw yn y Ganolfan Ddinesig. "First Floor Library Llyfrgell llawr cyntafary" yw un. Roedd un yn yr orsaf heddlu "Ring For Attention - Modrwywch am gymorth" :-)

Enghraiftiau erail - Ramp - codiad dur, Tagfa a marmaled, Parth Cerddwyr dim Cerddwyr.
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Sul 06 Gor 2008 12:04 pm

Angofiais i un mewn siop " Ffon unig" Beth oedd y saisneg?
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 06 Gor 2008 2:17 pm

O diar, bron wedi tagu ar fy marmaled... "Ffon unig" - "lonely stick"? 'S gen i ddim syniad - ddim yn gwneud synnwyr o gwbl, hyd yn oed efo tho bach ar yr O (lonely phone). Oedden nhw'n gwerthu ffyn? Os felly, efallai rhyw gais ar "unique stick" sy yma.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Sul 06 Gor 2008 4:08 pm

Ffon Unig = Staff Only wrth gwrs :-)
Yn y geiriadur
Staff= ffon
only =unig

Felly ffon unig :-)
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron