Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Jon Bon Jela a ddywedodd:Ond beth am yr achos diweddar o'r registrar yna yn Llundain sydd wedi ennill yr hawl i beidio â chynnal seremoniau partneriaeth sifil i bobl hoyw oherwydd eu credoau crefyddol? Yn dilyn yr achos llys, dywedodd y Christian Institute "Gay rights will never trump religious rights". Mae hyn yn BERYGLUS ac yn awgrymu bod hi a'i chredoau yn uwch na'r gyfraith sy'n sicrhau bod damcaniaethu yn erbyn pobl lleiafrifol yn enw ffydd yn gywir. Drwy osmosis, mae crefydd yn dal i gael dylanwad ar y wladwriaeth o hyd ac mae angen gwneud mwy i wahanu'r egwlys a'r wladwriaeth.

johnkeynes a ddywedodd:http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7508120.stm (ymmddiheuriadau am yr erthygl saesneg, ond nid yw'r BBC heb rhoi'r fersiwn Gymraeg fyny )
Rwyf yn falch bod y llysoedd yn taclo homoffobia yn y gweithle/yr eglwys, ond trist gweld bod e dal yn digwydd... Hen bryd i lot o arweinwyr yn yr Eglwys fyw yn yr unfed ganrif ar hugain nawr a derbyn y neges clir yma na fydd rhagfarn a casineb (fel diwgyddodd yn yr achos yma) tuag at gwrygydwyr yn cael ei dderbyn o gwbl
Galatiaid 5:19-26 a ddywedodd:19 Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a penrhyddid llwyr; 20 hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, 21 eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. 22 Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, 23 addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. 24 Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda’i nwydau a’i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. 25 Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni. 26 Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio'n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.
johnkeynes a ddywedodd:http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7508120.stm (ymmddiheuriadau am yr erthygl saesneg, ond nid yw'r BBC heb rhoi'r fersiwn Gymraeg fyny )
Rwyf yn falch bod y llysoedd yn taclo homoffobia yn y gweithle/yr eglwys, ond trist gweld bod e dal yn digwydd... Hen bryd i lot o arweinwyr yn yr Eglwys fyw yn yr unfed ganrif ar hugain nawr a derbyn y neges clir yma na fydd rhagfarn a casineb (fel diwgyddodd yn yr achos yma) tuag at gwrygydwyr yn cael ei dderbyn o gwbl
sian a ddywedodd:Os yw'r honiadau yn yr achos yma'n wir, does gan ymddygiad y ferch ddim i'w wneud â gwrthwynebiad rhannau o'r Eglwys i benodi pobl hoyw i rai swyddi etc. Mae'n ymddangos mai achos o fwlio plaen yw hwn.
Jon Bon Jela a ddywedodd:Wel, ti'n siarad â rhywun gafodd ei ddiarddel o'r ysgol Sul yn dair oed am ofyn ble oedd Adda ac Efa yn cadw'r deinosors yng ngardd Eden.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai