Gene Robinson - arwr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 15 Gor 2008 11:36 am

Ond beth am yr achos diweddar o'r registrar yna yn Llundain sydd wedi ennill yr hawl i beidio â chynnal seremoniau partneriaeth sifil i bobl hoyw oherwydd eu credoau crefyddol? Yn dilyn yr achos llys, dywedodd y Christian Institute "Gay rights will never trump religious rights". Mae hyn yn BERYGLUS ac yn awgrymu bod hi a'i chredoau yn uwch na'r gyfraith sy'n sicrhau bod damcaniaethu yn erbyn pobl lleiafrifol yn enw ffydd yn gywir. Drwy osmosis, mae crefydd yn dal i gael dylanwad ar y wladwriaeth o hyd ac mae angen gwneud mwy i wahanu'r egwlys a'r wladwriaeth.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Maw 15 Gor 2008 11:54 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:Ond beth am yr achos diweddar o'r registrar yna yn Llundain sydd wedi ennill yr hawl i beidio â chynnal seremoniau partneriaeth sifil i bobl hoyw oherwydd eu credoau crefyddol? Yn dilyn yr achos llys, dywedodd y Christian Institute "Gay rights will never trump religious rights". Mae hyn yn BERYGLUS ac yn awgrymu bod hi a'i chredoau yn uwch na'r gyfraith sy'n sicrhau bod damcaniaethu yn erbyn pobl lleiafrifol yn enw ffydd yn gywir. Drwy osmosis, mae crefydd yn dal i gael dylanwad ar y wladwriaeth o hyd ac mae angen gwneud mwy i wahanu'r egwlys a'r wladwriaeth.


Dyna'n union fath o beth sydd yn arwain at homoffobia o'r radd waethaf ac at gasineb yn ein cymdeiathas tuag at hoywon. Ble mae'r cariad yn hynny?

Gaf i pwysleisio nad wyf o gwbl yn ochri yn y lobi-gwrth gristnogol. Fel rwyf eisioes wedi dweud mae yna nifer o gristnogion da - rwyf yn nabod bobl hoyw sydd yn gristnogion mawr . Pwyntio allan ydw i ir eflennau dylanwadol cryf sydd yn tyfu mae arnai ofn ymysg traddodwyr gwrth-gyrygydol ymysg y lobi cristnogol...mae angen rhoi stop ar hyn, a byddaf i yn hapus i ymuno ar lobi cristnogol pro-gwyrygydol i sicrhau bod homoffobia yn cael ei ddymchwel o fewn y ffydd gristnogol unwaith ac am byth. Os rhywbeth, ai lledaenu cariad Crist yw'r ffordd (sydd yn cynnwys cariad at bobl beth bynang yw eu rhyw) yn lle rhagfarn?
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Gor 2008 12:33 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Ond beth am yr achos diweddar o'r registrar yna yn Llundain sydd wedi ennill yr hawl i beidio â chynnal seremoniau partneriaeth sifil i bobl hoyw oherwydd eu credoau crefyddol? Yn dilyn yr achos llys, dywedodd y Christian Institute "Gay rights will never trump religious rights". Mae hyn yn BERYGLUS ac yn awgrymu bod hi a'i chredoau yn uwch na'r gyfraith sy'n sicrhau bod damcaniaethu yn erbyn pobl lleiafrifol yn enw ffydd yn gywir. Drwy osmosis, mae crefydd yn dal i gael dylanwad ar y wladwriaeth o hyd ac mae angen gwneud mwy i wahanu'r egwlys a'r wladwriaeth.


Dwi'n meddwl bod achos y registrar yn ddigon teg, ond rwy'n cytuno fod ymateb y Christian Institute, yn ôl eu harfer, yn warthus. Dylai'r wladwriaeth fod yn rhydd, dylai pobl hoyw gael yr hawl i briodi ac fe ddylai pobl gael yr hawl i yfed alcohol OND dylai Cristnogion gael yr hawl i basio achos i briodas hoyw ymlaen i gyd-weithiwr ac dylai Moslem gael yr hawl i basio cwsmer sydd am brynnu alcohol ymlaen at gyd-weithiwr hefyd. Mae ymladd un set o rights yn erbyn set arall fel mae'r Christian Institute yn gwneud yn hurt bost.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan johnkeynes » Maw 15 Gor 2008 3:57 pm

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7508120.stm (ymmddiheuriadau am yr erthygl saesneg, ond nid yw'r BBC heb rhoi'r fersiwn Gymraeg fyny :drwg: )

Rwyf yn falch bod y llysoedd yn taclo homoffobia yn y gweithle/yr eglwys, ond trist gweld bod e dal yn digwydd... Hen bryd i lot o arweinwyr yn yr Eglwys fyw yn yr unfed ganrif ar hugain nawr a derbyn y neges clir yma na fydd rhagfarn a casineb (fel diwgyddodd yn yr achos yma) tuag at gwrygydwyr yn cael ei dderbyn o gwbl
johnkeynes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Maw 24 Meh 2008 10:19 am

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Gor 2008 4:35 pm

johnkeynes a ddywedodd:http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7508120.stm (ymmddiheuriadau am yr erthygl saesneg, ond nid yw'r BBC heb rhoi'r fersiwn Gymraeg fyny :drwg: )

Rwyf yn falch bod y llysoedd yn taclo homoffobia yn y gweithle/yr eglwys, ond trist gweld bod e dal yn digwydd... Hen bryd i lot o arweinwyr yn yr Eglwys fyw yn yr unfed ganrif ar hugain nawr a derbyn y neges clir yma na fydd rhagfarn a casineb (fel diwgyddodd yn yr achos yma) tuag at gwrygydwyr yn cael ei dderbyn o gwbl


Ro ni jest yn darllen y stori yna nawr. Beth bynnag yw barn pobl ynglyn a rôl pobl hoyw yn yr Eglwysi, beth ar wyneb daear oedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gneud yn cyflogi rhywun oedd yn "aggressive behaviour, foul language and bullying" yn y lle cyntaf?! Ffydd sy'n bwysig wrth gwrs ond mae'r Beibl yn dysgu fod y saint i'w hadnabod trwy eu ffrwythau:

Galatiaid 5:19-26 a ddywedodd:19 Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a penrhyddid llwyr; 20 hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, 21 eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. 22 Ond dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, 23 addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. 24 Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda’i nwydau a’i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. 25 Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni. 26 Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio'n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.


Ddim mod i'n role model o bell ffordd, i'r gwrthwyneb dwi'n syrthio'n fyr ymhobman, fodd bynnag 'toedd y fenyw yma ddim exactly yn ffitio'r bill yn ôl y Beibl i weithio i'r Eglwys nacoedd?! O diar...
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan sian » Maw 15 Gor 2008 4:41 pm

johnkeynes a ddywedodd:http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7508120.stm (ymmddiheuriadau am yr erthygl saesneg, ond nid yw'r BBC heb rhoi'r fersiwn Gymraeg fyny :drwg: )

Rwyf yn falch bod y llysoedd yn taclo homoffobia yn y gweithle/yr eglwys, ond trist gweld bod e dal yn digwydd... Hen bryd i lot o arweinwyr yn yr Eglwys fyw yn yr unfed ganrif ar hugain nawr a derbyn y neges clir yma na fydd rhagfarn a casineb (fel diwgyddodd yn yr achos yma) tuag at gwrygydwyr yn cael ei dderbyn o gwbl


Os yw'r honiadau yn yr achos yma'n wir, does gan ymddygiad y ferch ddim i'w wneud â gwrthwynebiad rhannau o'r Eglwys i benodi pobl hoyw i rai swyddi etc. Mae'n ymddangos mai achos o fwlio plaen yw hwn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Gor 2008 4:51 pm

sian a ddywedodd:Os yw'r honiadau yn yr achos yma'n wir, does gan ymddygiad y ferch ddim i'w wneud â gwrthwynebiad rhannau o'r Eglwys i benodi pobl hoyw i rai swyddi etc. Mae'n ymddangos mai achos o fwlio plaen yw hwn.


Diolch Sian, dyna oeddw ni yn treial ei esbonio ond fe es i'n rhy ddwfn i mewn i'r peth!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan sian » Maw 15 Gor 2008 7:44 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Wel, ti'n siarad â rhywun gafodd ei ddiarddel o'r ysgol Sul yn dair oed am ofyn ble oedd Adda ac Efa yn cadw'r deinosors yng ngardd Eden.


Jon, gwêd y gwir, chest ti ddim o dy ddiarddel o'r Ysgol Sul yn dair oed am ofyn ble oedd Adda ac Efa'n cadw'r deinosors yng ngardd Eden, do'fe?
Fi'n gwbod bo ti'n meddwl bod Cristnogion yn bach yn dwp - ond dy'n ni ddim cweit mor dwp â llyncu honna :lol:

Mae plant tair oed yn ein Hysgol Sul ni yn dweud pethau fel "Dwi'm isho lliwio, dwi isho paentio" a "Sgen ti fferis heddiw?".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Kez » Maw 15 Gor 2008 8:21 pm

Twel Jon, paid a mysdyn coes y stori yn rhy hir; Odd Sian wedi dy ddala di fanna. Own i bron a'th gredu di - ond ath dy goes di bach yn rhy hir :D
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan ceribethlem » Maw 15 Gor 2008 9:00 pm

Falle mae rooney oedd yn dysgu yn yr Ysgol Sul, a nath e rhedeg ar ol JonBonJela gyda'i bicell o dan, ac oedd rhaid i JBJ rhedeg yr holl ffordd lan i'r hen felin wynt pren, a daeth y pentrefwyr oll ar ei ol e. Dechreuodd y felin wynt llosgi, a bu rhai i JBJ a'i gyfaill camffurfiedig, Igor, neidio mas o'r ffenest uchaf i ddianc i'r coed.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron