gan Duw » Mer 16 Gor 2008 10:47 am
Dwi'n gweld lot o hen ddadleuon fan hyn, gyda'r cwestiwn/pwynt gwreiddiol wedi'i golli'n llwyr. Ydy Eglwys y Saeson yn iawn i wrthod pobl hoyw? Yn ol beth dwi'n deall, mae'n rhaid iddyn nhw. Nid yw bod yn PC/anghyfleustra'n rheswm i newid sylfeini'r crefydd (gair Duw).
Beth oedd barn Iesu ynglyn a phobl hoyw? Rhywbeth fel, "Iawn, ceid dy faddau gan Dad ar ol i siarad Jwdas rownd i'm roi i fyny, ond os wyt ti dal yn 'ware witwiws gyda dynion ar ol 'ny, geid di pitsfforc tanllyd yn dy ben-ol am oes oesoedd amen."
Sori, braidd yn sarhaus, ond os yw'n bechod, sut all yr Eglwys ganiatau rhywun i'w chynrychioli sydd ddim yn atal ei bechaduron?
Mae Leviticus yn datgan ei fod yn "abomination" ac mae'r Torah yn datgan ei fod yn bechod ofnadwy. Felly nid yw'r mwyafrif o Iddewon yn ei dderbyn. Mae'r mwslemiaid yn glir iawn ar y mater hwn - mae rhyw 7 gwlad islamaidd yn y byd dal yn gosod dienyddiad am fod yn hoyw. Ie, ie, nid yw cristnogaeth yr un peth bla, bla, bla, ond mae'n ymddangos bod neges gref yn dod o blaid gwahardd gwrygydwyr o'r sefydliad/cymdeithas (= 'dyn ni ddim angen pobl hoyw). Fel dywedais mewn post cynt, beth yw'r pwynt myned gwrygydwyr i mewn i'r haid, dim ond iddynt gael eu beirniadu'n hallt gan eu Duw a'u taflu i Uffern?
Falle bydde rhai'n well i droi at Bwda. Er nid oes modd cael unrhyw fath o ryw os ydych am fod yn fynach/offeiriad, gallwch ddilyn Bwda a bod yn hoyw (er mae rhai enwadau yn ei erbyn - bydd angen gwirio gyda'ch cangen lleol!)