Duw a ddywedodd:
Wrth ddarllen y dadleuon, dwi wedi dod i'r canlyniad, os wyt yn hoyw, paid a boddran gyda chrefydd. Stim un o'r big 3 am dy dderbyn.
Mae'n rhaid bod craidd cryf i grefydd (od yn dod o anffyddiwr, dwi'n gwybod), neu stim pwynt iddo. Os ydy crefydd yn mynnu rhyw rheol (e.e. nid oes pobl o Gymru yn cael ymuno), wel dyna 'ny. Beth yw'r pwynt o fynnu cael mynediad a newid y crefydd i siwtio? ?
"Y mae gan bawb yr hawl i grefydd" ebe datganiad cyffredinol hawlio dynol 1948.
Gan ystyried y cymerodd 4 mlynedd i lunio'r ddogfen, trueni nad oedd "Y mae gan bawb yr hawl i wrthod crefydd" ei gynnwys.