Gene Robinson - arwr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Iau 17 Gor 2008 2:29 pm

Duw a ddywedodd:
Wrth ddarllen y dadleuon, dwi wedi dod i'r canlyniad, os wyt yn hoyw, paid a boddran gyda chrefydd. Stim un o'r big 3 am dy dderbyn.

Mae'n rhaid bod craidd cryf i grefydd (od yn dod o anffyddiwr, dwi'n gwybod), neu stim pwynt iddo. Os ydy crefydd yn mynnu rhyw rheol (e.e. nid oes pobl o Gymru yn cael ymuno), wel dyna 'ny. Beth yw'r pwynt o fynnu cael mynediad a newid y crefydd i siwtio? ?


"Y mae gan bawb yr hawl i grefydd" ebe datganiad cyffredinol hawlio dynol 1948.

Gan ystyried y cymerodd 4 mlynedd i lunio'r ddogfen, trueni nad oedd "Y mae gan bawb yr hawl i wrthod crefydd" ei gynnwys.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Duw » Iau 17 Gor 2008 3:26 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:"Y mae gan bawb yr hawl i grefydd" ebe datganiad cyffredinol hawlio dynol 1948.

Gan ystyried y cymerodd 4 mlynedd i lunio'r ddogfen, trueni nad oedd "Y mae gan bawb yr hawl i wrthod crefydd" ei gynnwys.


Clyw, clyw! Er oes gan grefydd yr hawl i wrthod? Dweden i bod e - busnes nhw yw eu rheolau, jest bod e ddim yn tarfu ar fywyd secwlar.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 17 Gor 2008 5:16 pm

Chi gyd yn codi cwestiynnau na wn i'r ateb iddyn nhw. Yr unig beth alla i ddweud yw hyn, yn y diwedd Duw sy'n barnu ac nid Cristnogion ac fydde ni'n dweud fod gan Gristnogion hunangyfiawn (fel fi ar rai adegau :crio: ) sy'n chaso ar ôl pechodau "cyhoeddus" pobl eraill gymaint i'w fecso amdano fe ag sydd gan rywyn sy'n loose canon lustfull boed yn hetrorywiol neu'n hoyw. Ond y cysur yw fod Duw yn maddau'r pechadur penna - unwaith sortith pobl eu perthynas a Duw allan fe ddoith yn glir wedyn iddyn nhw pa fath o fywyd maen nhw ishe Duw iddyn nhw fyw - perthynas da Duw yn gorfod dod cyn lifestyle, rhaid peidio rhoi'r cart o flaen y ceffyl. Dyna pam mod i'n amheus o orfodi safonnau Cristnogol ar anghredinwyr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Jon Bon Jela » Iau 17 Gor 2008 5:42 pm

http://www.godhatesshrimp.com/

Ond i fynd nol at dy bwynt blaenorol di, Rhys - pa ots os oes gan rai pobl mwy o ffydd yn eu timau pel droed na mewn Duw? Onid ffydd yw ffydd a rhywbeth i lenwi'r twll seicolegol sydd gyda ni i chiwilio am reswm i fyw/ystyr uwch?

Mmm?
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Kez » Iau 17 Gor 2008 5:49 pm

Wi’m yn deall pam bod crefyddau yn ofan ‘rhyw’ ac yn barnu pobol o ran eu rhywioldeb. Mae’r chwant rhywiol yn gymaint rhan annatod o bob un ohonom ni ac os taw’r pechod cyntaf oedd byta’r afal a dod i sylweddoli hynny a gweithredu arno – pam wnath Duw ein creu ni gyda’r teimladau hyn a rhoi’r dderwan fala yng ngardd Eden yn y lle cyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 17 Gor 2008 6:05 pm

Kez a ddywedodd:Wi’m yn deall pam bod crefyddau yn ofan ‘rhyw’ ac yn barnu pobol o ran eu rhywioldeb. Mae’r chwant rhywiol yn gymaint rhan annatod o bob un ohonom ni ac os taw’r pechod cyntaf oedd byta’r afal a dod i sylweddoli hynny a gweithredu arno – pam wnath Duw ein creu ni gyda’r teimladau hyn a rhoi’r dderwan fala yng ngardd Eden yn y lle cyntaf.


Wel, smo Cristnogaeth yn ofan rhyw, ddim o gwbl, wyt ti wedi darllen Caniad Solomon? Llyfr 'erotica' Cristnogaeth yw e, mae e'n llawn o bopeth gan gynnwys rhyw geneuol maen debyg! Ond y pwynt yw fod rhyw i'w fwynhau i'r eithaf o fewn clymau priodas. Un o'r pregethwyr mawr hip/cwl/cyfoes rhyngwladol ar hyn o bryd yw boi o'r enw Mark Driscoll*, ma fe'n pregethu cyfres ar Ganiad Solomon yn yr Hydref, mi fydd yn ddiddorol iawn, allw chi wylio nhw ar wefan ei eglwys, Mars Hill, pan fydda nhw'n rhedeg.

(*disclamer: dwi ddim yn cytuno gyda popeth maen dweud gyda llaw cyn i chi fy saethu i lawr am roi plyg iddo fe!)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Kez » Iau 17 Gor 2008 7:18 pm

Wyt, ti’n iawn Rhys bod crefydd ddim yn ofan sôn am ryw – ond wastod mewn ffordd negyddol. Os yw ‘rhyw’ i’w fwynhau o fewn clymau priodas yn unig heb feddwl am genhedlu – onid yw hwnna’n drachwant â thrwydded iddi. A allwn ni dderbyn wedyn bod dau berson sy’n caru ei gilydd yn angerddol ond heb y drwydded ‘na yn bechaduriaid a nhwthau’n mynd i losgi yn nhannau Uffern am eu cariad – choelia i fawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 17 Gor 2008 7:49 pm

Kez a ddywedodd:Wyt, ti’n iawn Rhys bod crefydd ddim yn ofan sôn am ryw – ond wastod mewn ffordd negyddol. Os yw ‘rhyw’ i’w fwynhau o fewn clymau priodas yn unig heb feddwl am genhedlu – onid yw hwnna’n drachwant â thrwydded iddi. A allwn ni dderbyn wedyn bod dau berson sy’n caru ei gilydd yn angerddol ond heb y drwydded ‘na yn bechaduriaid a nhwthau’n mynd i losgi yn nhannau Uffern am eu cariad – choelia i fawr.


Hold on nawr, nace duw ydw i so sain gwbod yr atebion i gyd! Ond o ran tan uffern, y cysur yw fod duw yn deg ac n maddau. Jiawch mar drafodeth man mynd rhy hard-core i Fi... mewn mwy nag in ffordd ;-)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Kez » Iau 17 Gor 2008 8:05 pm

Ti ddechreuws y petha hard-core off wrth son am godiadau Solomon ne rywpath. Paid di a phoeni dim Rhys - wi'n parchu dy farn di er nag wyf i bob tro yn cytuno ag ef. High five 'chan - wi'n meddwl y byd o'ti. Wi'n siwr naiff Duw dy fadda di ond wi'n ofan bo fi bach yn y shit :lol: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gene Robinson - arwr

Postiogan Duw » Iau 17 Gor 2008 8:17 pm

Cytuno Kez, dwi meddwl bo'r rhan fwyaf o ni yn y cach - tebyg i ddarlun Bosch.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Hold on nawr, nace duw ydw i so sain gwbod yr atebion i gyd! Ond o ran tan uffern, y cysur yw fod duw yn deg ac n maddau. Jiawch mar drafodeth man mynd rhy hard-core i Fi... mewn mwy nag in ffordd


Ware teg Rhys, rwyt wedi bwrw'r hoelen ar ei phen eto - y gwirionedd yw 'sneb yn gwybod, er mae arweinwyr yr Eglwys yn mynnu eu bod nhw.

Os ydym yn derbyn taw gair Duw yw'r Beibl cyfan, mae'n amlwg ei fod off ei bons, yn scitso, neu ei fod wedi tyfu lan tamaid bach ers iddo gael plentyn ei hunan. Felly, nid oes modd 'nabod natur nac ewyllys Duw - pwy all ddweud gyda sicrwydd sut mae Duw yn teimlo am hoyws? Mae wedi cael 2000 o flynyddoedd i ddod yn gyfarwydd a'r syniad (oedd Iesu'n hoyw?).

Ar y llaw arall, os oes modd dehongli'r Beibl a dethol a dewis y rhannau cyfleus, nid gair Duw ydyw'n rhagor, ond casgliad o storiau gyda thardd amheus. O ganlyniad, nid wyf yn gweld unrhyw rhwystr i bobl hoyw ymuno ag Eglwys y Saeson oherwydd gallwch wneud y rheole lan fel rydych yn mynd ymlaen.

Dwi wedi newid fy meddwl yn llwyr, dwi wedi darbwyllo fy hun - dim problem - hoyws yn cael ymuno.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron