løvgreen a ddywedodd:Maes C fysa'r lle i bobl ifanc gael mwynhau eu hunain mewn awyrgylch saff. Yn anffodus ar y cyfan mae'r pethau sy mlaen yno wedi'u gerio at bobol mewn dipyn o oed.
A be ddigwyddodd i'r babell roc ar y maes? E, pwy sy'n cofio protest y Trwyne Coch rai blynyddoedd yn ol? Tase gen ein grwpiau ifanc ni dipyn o ysbryd ynyn nhw fysen nhw'n trefnu ymhlith eu hunain i chwarae ar y maes adeg y Cadeirio.
Ond o ddifri, den ni gyd wedi bod trwy hyn pan oedden ni dan 18, dio ddim fel petai hyn yn beth newydd.
Roedd Maes C yn grêt i bawb llynedd - falle dim cweit cystal eleni.
Dw i'n meddwl bod y llwyfannau perfformio a'r bariau wedi dod yn lle'r babell roc - ond dydi e ddim cweit run peth.
Es i i'n Steddfod gynta'n 16 oed - Aberteifi - a, hyd y cofia i, doedd dim lot yn digwydd gyda'r nos. Dw i'n cofio rhyw gig yn y mart a noson 'fawr' yn dechrau am 10.30 yn y pafiliwn ar y nos Wener. Fel arall, roedd pobol jest yn casglu ar y sgwâr. Roedd tad ffrind i ni oedd ddim wedi cael dod yn dweud bod gwaed yn llifo mas dan ddrysau'r tafarndai ond er chwilio a chwilio, welson ni ddim diferyn o waed! Pawb mewn hwyliau da!