gan Chickenfoot » Iau 24 Gor 2008 11:26 pm
Yn wir, senor Bon Jela. Jest ceisio dweud oeddwn i y basa'n syniad i'r rhai sydd yn gwrthwynebu i ferched a phobl hoyw cael unrhyw beth i wneud a Christnogaeth i edrych heibio'r amlwg a gweld nhw fel pobl jest fel nhw.
Fedrwch chi ddim newid rywun fel na'n gyfan gwbl, ond mi fedrwch chi ddisgwyl oddefgarwch. Efalla sa'n syniad i'r Eglwys dorri'n sects gwhanol beth bynnag. Wedi'r cwbl, dim ond oherwydd boner brenin am ferch ifanc 500 mlynedd yn ol mae'r Eglwys Anglicanaidd yn bodoli eniwe, felly beth fydden nhw'n colli wrth dorri'n grwpiau llai?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M