Helo Mali a Iago
Diolch am y negesuon. Pechod eich bod chi ddim yn byw yn nes at y 'Duggie" i ymuno ac ein sesiynau siarad
SBAENEGBeth am y Podcasts yma... mae 'Gwers 1' ar waelod y dudalen
http://www.notesinspanish.com/category/beginners-podcast/. Ac mae'r wefan gyda stwff i wahanol lefelau, o ddechreuwyr at reit anodd. Mae'r Podcasts am ddim ond yn anffodus mae rhaid talu am y worksheets, ond dylai'r un geirfa a gramadeg sydd yn y Podcasts i ddechreuwyr bod yn 'Spanish for Dummies' neu lyfrau eraill.
Mali - Dwi ddim wedi dod ar draws dim byd 'interactif'. Wnes i gychwyn blynyddoedd yn ol gyda casets ofnadwy o naff (cofio casets?). Mae lot fawr o stwff da iawn ar gael .. llyfrau, CDs ac ar lein. ... Gobeithio bod yr Podcasts yma'n helpu rhywfaint?
CATALÀMae'n anos ffeindio stwff ar gyfer Català yn WH Smiths neu Bookland yng Nghymru wrth gwrs, ond mae'r llyfr yma'n dda a gallet ti ei ordro fo neu gael o Amazon:
http://www.teachyourself.co.uk/lcatalan.htm Mae CD ar gael hefyd. Er bod yn ddrutach... swn i gael y CD - mae'n hopeless heb glywed yr ynganiad
Ar line mae na lot fawr.. mae hwn ar gyfer myfyrwyr newydd ym Mhrifysgol Barcelona:
http://www.ub.edu/guiaconversa/angles/a.php?fer=GUIA&idioma%5B%5D=1&idioma%5B%5D=7&ordre=1Tria y darn 'cyfarchion' am y basics fel hello, sut mae etc.. Gallet ti glcio ar y gair i glywed sut ti'n dweud.
Gobeithio bod hynny'n help?
Buena Suerte / Bon Sort (Pob lwc)
Huw