gan Garnet Bowen » Gwe 15 Awst 2008 3:36 pm
Does gen i ddim llawer o fynedd efo'r agwedd yma sy'n collfarnu Aelodau Cynulliad am ennill arian (a chostau da). Mae'r bobl hyn yn gwneud gwaith hynod o galed, dros oriau hir iawn. Ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o swyddi, does dim sicrwydd hir dymor. Be mae rhywun yn ei wneud ar ol colli sedd yn y Cynulliad? Be ydi'r cam nesaf yn eich gyrfa?
O ystyried hyn i gyd, mae tal Aelodau Cynulliad yn gymhedrol iawn. Mae nhw'n ennill llai o lawer na nifer o bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ydi hi'n deg disgwyl i Aelod Cynulliad fodloni ar gyflog sydd yn llai na llawer iawn o'i gweision sifl, neu reolwyr gwasanaeth iechyd, neu hyd yn oed uwch-swyddogion ein cynghorau sir?