sian a ddywedodd:Os ydw i wedi deall yn iawn, onid costau ail gartref yw'r rhain?
Os oes ganddyn nhw ail gartref yng Nghaerdydd, pam yr holl wariant ar fwyta allan?
Yn hollol, diog a ddim awydd mynd i Tesco a stocio'r frij dwi'n amau. Maen ymddangos fod yn rhaid i bawb ddysgu bod yn ddarbodus a chwilio am y bareinion yn Tesco oherwydd y "credit crunch" heblaw am yr Aelodau Cynulliad sydd jest yn gallu picio i Bella Italia neu'r Spice Merchant ar y ffordd adre o'r gwaith pob dydd a'i hawlio fe nol gan eu bod nhw yn
gorfod bod yng Nghaerdydd gyda'i gwaith.
Mae hawlio costau ail dy os wyt ti'n byw ymhellach na rhyw awr o'r Bae yn ddigon teg dwi'n meddwl ond mae bwyta mas tra dy fod di yn dy ail-dy yn warthus ac yn ddim byd mwy na chymryd matais.
Ma eishiau iddyn nhw, yn enwedig y Parch. RGTh ddarllen Nehemeia 5:14-19
"...ni fwyteais i na'm brodyr ddogn bwyd y llywodraethwr. Bu'r llywodraethwyr blaenorol oedd o'm blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicr o arian. Yr oedd eu gwesiwion hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw... ni ofynnais am ddogn bwyd y llywodraethwr am ei bod yn galed ar y bobl."
Gwers dda i'r Aelodau boliog Cynulliad.