1. Beth oedd y peth cyntaf i chi feddwl wrth godi heddiw?Argh! Dwi'n hwwwyr! (i be, dwnim. Doedd gennai bygyr ol i neud heddiw)
2. Beth wisgoch chi (os ydych chi wedi gwisgo'n barod)?Duvet am fy nghanol wrth redeg am y gawod cyn i neb fy ngweld.
3. Ydych chi'n hoff o ymbarel? Esboniwch eich safbwynt hefyd.Ydw. Ma gennai ffantasi o gael defnyddio ymbarel fawr ddu i fygwth a prodio rhywun diarth ar y stryd mewn acen Saesneg posh. What-ho!
4. Beth fyddwch chi'n hoff o'i wneud ar ddiwrnod gwlyb?Gwisgo sandalau a cerdded drwy pob pwll dwr ar fy ffordd.
5. Beth yw'r un peth mae'n rhaid i chi ei gyflawni dros y penwythnos?Cyrraedd Llundain via Caerdydd mewn un darn er mwyn cael gweld Old Crow Medicine Show