Diolch i HuwJones am ei help:
Mae'n hawdd i newid iaith dy PC i Gymraeg
Mater bach yw lawrlwytho atodiad bach sy'n newid y rhaglenni PC mwya poblogaidd i Gymraeg - neu'n ddwyieithog.
Cofia hefyd fod dy gyfrifiadur yn gallu gwneud ysgrifennu Cymraeg yn llawer haws gyda chymorth cywiro sillafu a gramadeg - gret i ddysgwyr a phawb arall
Windows PC Llwytho i lawr y pecyn iaith AM DDIM
Windows XP, Vista a 7 yn Gymraeg.
XP - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
VISTA - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
Windows 7 - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy (cyfarwyddiadau mewn Saesneg ar sut i osod ar gael ar wefan Microsoft)
Canolfan Rheoli Iaith Windows PC Llwytho i lawr y pecyn AM DDIM
Cynnig dewis iaith i ddefnyddwyr cyfrifiaduron mewn cartrefi a gweithleoedd dwyieithog. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith rhyngwyneb Windows
XP - http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyho ... u/4993.exe
Vista - http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyho ... u/5232.exe
Gwybodaeth ar wefan Bwrdd yr Iaith - http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyho ... egoryid=35
Microsoft Office PC Llwytho i lawr y pecyn iaith AM DDIM
Pecyn iaith sy'n newid y dewisiadau ar y sgrin i Gymraeg.
Office 2003 - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
Office 2007 - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
Office XP Welsh Proofing Tools Add-in PC Llwytho i lawr AM DDIM
Wrth ysgrifennu Saesneg yn Microsoft Word mae’r mwyafrif ohonom yn gwneud defnydd mawr o’r ‘sgwigls coch’ sy’n amlygu unrhyw eiriau sy’n debygol o fod wedi’u camsillafu. Mae'r nodwedd hon hefyd ar gael ar gyfer y Gymraeg. Mae’n gweithio os ydych chi wedi gosod y rhyngwyneb Cymraeg neu’n dal i ddefnyddio’r rhyngwyneb Saesneg.
Office XP - http://www.microsoft.com/downloads/deta ... laylang=cy
OpenOffice PC Llwytho i lawr AM DDIM
Rhaglen poblogaidd yn debyg iawn i Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint etc..).
Fersiwn Gymraeg yn cynnwys gwirydd sillafu Cymraeg, Mae fersiwn ddwyieithog hefyd ar gael, gyda botymau i newid iaith y dewisiadau a'r cywiro sillafu o Cymraeg i Saesneg a nôl.
OpenOffice Cymraeg - http://cy.openoffice.org/
OpenOffice Dwyieithog - http://www.meddal.com/openoffice2dwyieithog.htm
NeoOffice MAC Llwytho i lawr AM DDIM
OpenOffice ar gyfer y Mac. Y cyfan yn Gymraeg ac mae modd llwytho geiriadur i gywiro sillafu Cymraeg
Manylion llawn ar wefan Meddal - http://www.meddal.com/neooffice.htm
Firefox PC a Mac Llwytho i lawr AM DDIM
Rhaglen chwilio'r we yn debyg i Internet Explorer. Mae dros 10 miliwn o bobl dros y byd wedi llwytho i lawr Firefiox - sydd ar gael mewn dwsinau o ieithoedd. Dilyn y cyngor ar wefan Meddal http://cy.www.mozilla.com/cy/
Thunderbird PC a Mac Llwytho i lawr AM DDIM
Rhaglen Ebosto yn debyg i Outlook etc.. Geiriadur Cymraeg ar gael i gywiro sillafu. Dilyn y cyngor ar http://www.meddal.com/thunderbird.htm
Cysgliad/Cysill PC CD ar werth yn siopau llyfrau Cymraeg PC: Tua £50 - MAC: Am Ddim - ARLEIN: Am ddim
Cywirio Sillafu a Gramadeg. Yn gweithio gyda Windows, Word, Open Office, Word Perfect etc.
Manylion pellach ar http://www.e-gymraeg.org/cysgliad/
Fersiwn rhad ac am ddim ar gyfer y Mac - http://e-gymraeg.org/cysgliadmac/
Fersiwn rhad ac am ddim Arlein - http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/
To Bach PC Llwytho i lawr AM DDIM
Mae To Bach yn rhaglen sy'n hwyluso gosod acenion ar nodau ar gyfer y Gymraeg. Drwy ddefnyddio bysell Alt Gr i’r dde o’r bysellfwrdd mae odd gosod to bach ar ben yr ŵ ar ben â ac yn y blaen. Mae hefyd yn gosod acenion i’r dde ac i’r chwith á é è ac ati a dau ddot ï. - http://www.draig.co.uk/draig/English/mu ... fault.aspx (Gwefan dim ond ar gael yn Saesneg yn anffodus)
- - - - - - - - - - - - -
Am fanylion o bob dim sydd ar gael ac am gyngor: http://www.meddal.com/
Nodwch unrhyw feddalwedd Cymraeg eraill yma!