pump am y penwythnos 19/9/08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan joni » Gwe 19 Medi 2008 10:43 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Gwerth £20 o betrol.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Nes i neud shelves i'r cwpwrdd crasu dydd sul dwetha. Wy'n gweud "neud shelves" ond dim ond torri darne o 2x1 a hoelio nhw at eu gilydd odd angen neud. A do, nes i bwrw fy mys gyda'r ffacing morthwl.

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Llanrhystud i Aberystwyth via Lledrod.

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Sai'n cofio o gwbl. Gwarthus, rili.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Cofio cael raced tenis un dolig. Sai'n hoffi tenis. Ac yn sicr sai'n mynd i whare tenis adeg dolig.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Dwlwen » Gwe 19 Medi 2008 11:08 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
rownd o hanneri. steddon ni yn y pyb yn edrych fel cewri gyda'n gwydrau bach.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Menig i Mam. Wy ar ganol 'neud sgarff i fynd 'da nhw.

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Nol i'r ty o tesco dros y penwythnos.

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Adre, ar ol bod yn y dafarn nithwr.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Ornament o wyneb amheus-yr-olwg sy'n gwisgo tyrban. Odd y rhoddwr yn grac awn pan *anghofies* bacio fe wrth symud ty. Wy 'di derbyn CD Michael Bolton gan yr un pobl...
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 19 Medi 2008 12:10 pm

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?\
Fues i'n ddrwg a mynd i'r siop tships neithiwr.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Pryd o fwyd nos Fercher.

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
I'r Tesco mawr yng Nghaerdydd ddoe.

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
I'r gwaith, gan fod rhywun wedi dwyn fy meic... (ond mae un newydd 'da fi nawr - disc brakes, woo!)

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Odi carden benblwydd yn cyfri? Fe wnaeth ffrind garden i fi gyda llun o'i 'aelod' yn y canol.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan cyfrinair » Gwe 19 Medi 2008 12:32 pm

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?

Tacsi nithwr ar ôl bod yn Y Point

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?

Fy ngwallt cyn mynd mas nithwr.

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?

Tacsi nithwr ar ôl bod yn Y Point

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?

Lawr y Bae a nôl, gynne, gyda'r ci.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?[/quote]

Chwip bren o Ann Summers.
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Mwnci Banana Brown » Gwe 19 Medi 2008 1:04 pm

cyfrinair a ddywedodd:5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?

Chwip bren o Ann Summers.


Allai ddod draw i whare?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Manon » Gwe 19 Medi 2008 8:56 pm

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Sticer wal o goedan i roi i fyny yn y gegin o Ian Snow.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Nes i a'r bych wneud bocs tlysau i fy chwaer ar ei phen-blwydd yn ddiweddar.

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
Adra' o Mach yn yr haul braf!

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Ynys-hir i wylio adar.

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Wili bach 'da chi'n weindio fyny ac mae o'n cerddad 'rhyd lle. Yyyy :rolio:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Mwddrwg » Sad 20 Medi 2008 6:57 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Hendricks gin a tonic

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Y peth dwetha imi wneud oedd yn gofyn am grefft oedd quiche smoked salmon a dill

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
i fy nhy newydd efo llond y bwt o geriach

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
gwaith - pan yn cerdded yn araf...

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
ges o ddoli glwt gan fodryb pan o'n i'n 13 :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Cacamwri » Sad 20 Medi 2008 10:02 am

1. Beth oedd y peth diwethaf i chi dalu arian amdano?
Indians tecawe i fi a Siffrwd Helyg neithiwr, a photel o win coch a gwin.

2. Beth oedd y peth diwethaf i chi grefftio â llaw?
Hmm, sa i'n cofio. Ydy gwneud paper mache yn grefft?!

3. Ble oedd y lle diwethaf i chi deithio mewn car?
I hol yr indians neithiwr. Er bo fi'n agos i'r siop, sa i'n lico cerdded ar ben fy hun yn y nos...

4. Ble oedd y lle olaf i chi gerdded mwy na hanner awr i’w gyrraedd?
Doedd e ddim yn hela hanner awr...ond fore Iau nes i gerdded lan i'r ysgol gynradd i fynd a mari i'r cylch ti a fi. o'n i wedi anghofio pa mor serth oedd rhiw Seion!

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Jiw, sai'n cofio...ddim yn meddwl bo fi wedi cael dim byd rhyfedd, diolch byth.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: pump am y penwythnos 19/9/08

Postiogan Chickenfoot » Sad 20 Medi 2008 10:20 am

5. Beth yw’r anrheg fwyaf rhyfedd i chi dderbyn erioed?
Mwg o Sbaen yn siap bron, hefo twll yn y nipple.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai