Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

Postiogan Gorwel Dau » Maw 23 Medi 2008 9:55 am

Gweithdy Byrfyfyrio Cerdd gyda KOO (Jim Knight, Fiona Owen & Gorwel Owen) fel rhan o Ŵyl Goedwig Garreglwyd. Byddwn yn canolbwyntio ar wrando a chreu synau yn hytrach na defnyddio nodiant confensiynol. Bydd y gweithdy yn addas ar gyfer oedrannau 16 i oedolyn, a byddwn yn ei redeg dwywaith yn ystod y dydd (11.30-1.30 and 2.30-4.30). Dewch ag offeryn sydd ddim angen gwasanaeth trydan os gwelwch yn dda, neu, gallwch gymryd ran drwy ddefnyddio eich llais. Os oes dim offeryn gyda chi a/neu hoffwch gael sgwrs o flaen llaw, croeso i chi gysylltu â Gorwel ar 01407 810742 neu drwy e-bost koo@rhwng.com (Gwefan KOO: http://www.rhwng.com/koo)

Dwi methu atodi 'flyer' cyffredinol i'r ŵyl, sydd â llawer o weithgareddau amrywiol, yn y seiat yma. Os wyt ti isio ni ebostio 'flyer', yna ebostia koo@rhwng.com

Hwyl!
Golygwyd diwethaf gan Gorwel Dau ar Maw 23 Medi 2008 10:09 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Gorwel Dau
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 27 Medi 2006 7:05 am
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig

Postiogan khmer hun » Maw 23 Medi 2008 9:58 am

Pryd mae'r wyl goedwig? Se well ti roi e yn y pennawd?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig

Postiogan Gorwel Dau » Maw 23 Medi 2008 10:08 am

khmer hun a ddywedodd:Pryd mae'r wyl goedwig? Se well ti roi e yn y pennawd?


Syniad grêt! Dwi wedi ei newid rwan.
Diolch yn fawr.
Gorwel Dau
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 27 Medi 2006 7:05 am
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

Postiogan khmer hun » Maw 23 Medi 2008 10:11 am

o.n. wedi mwynhau'r sgwrs ar 'Sesiwn Fach' b'nawn sadwrn gyda llaw. ond, erm, a ddealles ti air o 'Yr Eneth Fechan Glaf' gan Georgia Rwth Williams?! Pam canu'r gân os nad oedd gair ohoni i'w deall?

o.n.n. erm, sori, wedi dy gymysgu, Gorwel, â Gorwel Roberts! Anwybydda'r neges x
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

Postiogan Gorwel Dau » Maw 23 Medi 2008 10:24 am

o.n.n. erm, sori, wedi dy gymysgu, Gorwel, â Gorwel Roberts! Anwybydda'r neges x[/quote]

Dim problem. Gorwel Un ydi o.
Gorwel Dau
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 27 Medi 2006 7:05 am
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Gweithdy Byrfyfyrio a Gŵyl Goedwig 27.09.08

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 23 Medi 2008 12:29 pm

Gorwel Dau a ddywedodd:o.n.n. erm, sori, wedi dy gymysgu, Gorwel, â Gorwel Roberts! Anwybydda'r neges x


Dim problem. Gorwel Un ydi o.[/quote]

oni meddwl mai ti oedd Gorwel Un a fi ydi Gorwel 2 a 1/2???

eniwe, mae byrfyfyrio rhydd yn y coed yn swnio'n hwyl
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron