BE' 'DI'R PWYNT PRYDAIN ERBYN HYN?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw dyfodol Prydain?

Unoliaeth parhaol gan ddileui datganoli?
2
7%
Prydain Ffederal?
11
38%
Anibynniaeth llwyr i'r cenedlaethau prydain?
15
52%
Rhywbeth arall? - esboniwch isod
1
3%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 29

BE' 'DI'R PWYNT PRYDAIN ERBYN HYN?

Postiogan Chris Castle » Mer 05 Tach 2003 9:34 am

Oes dyfodol i gyfundrefn genedlaethol brydeinig?

Os OES/NAGOES - PAM? SUT?
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Re: BE' 'DI PWYNT PRYDAIN ERBYN HYN?

Postiogan Garnet Bowen » Mer 05 Tach 2003 10:18 am

Chris Castle a ddywedodd:Oes dyfodol i gyfundrefn genedlaethol brydeinig?

Os OES/NAGOES - PAM? SUT?


Mae hyn yn cael ei drafod yn barod o dan edefyn "Dyfodol Plaid Cymru", felly mi driai beidio ac ail-adrodd (er mor hoff dwi o glywed fy llais fy hun :winc: ). Fel dwi'n ei gweld hi, mae Prydain yn esblygu i fod yn gymdeithas aml-ddiwyllianol ddeinamic, ac mae gan Cymru ran bwysig i'w chwarae yn honno, fel y mae gan Albanwyr, Gweyddelod, Indiaid, Affro-Caribiaid ac eraill. Mae pob un o'r grwpiau cenedlaethol yma wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at adeiladu yr ymerodraeth Brydeinig, a tydi hi ond yn deg felly ein bod ni'n cael rhannu yn ffrwyth ein llafur.

Tueddiad llawer iawn o'r rhai sy'n mynnu ein hannibynniaeth ydi canolbwyntio ar ochr negyddol hanes ein perthynas ni gyda Phrydain. Do, fe'n concrwyd. Do, fe wnaed i ni erfyn am bob man gonsesiwn dros y blynyddoedd. Do, fe fu rhaid i blant wisgo'r Welsh Not. Ond fe oroesodd yr iaith, tra y marwodd nifer fawr o ieithoedd mwy. A Phrydain sydd i'w diolch am hyn hefyd. Y galw am ddur a glo Cymru ar hyd a lled yr ymerodraeth wnaeth Cymru yn wlad fodern, gyda iaith fyw.

Wrth gwrs, tydi'r sefyllfa fodern ddim yn un berffaith, ond byddai ymrannu Cymru a Lloegr yn ddwy wlad ar wahan yn weithred mor ffol a chodi wal Berlin, neu rannu Corea. Mae hunaniaeth y mwyafrif llethol o bobl Cymru ynghlwn wrth Brydain. Mae gan pobl Cymru yr hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain pan mae'n dod i'r pethau hynnu sy'n ymwneud a Chymru, ond beth ydi gwerth bod yn wahanol dim ond er mwyn bod yn wahanol.

Oes yna fantais cael Banc Cymru, yn lle Banc Lloegr? Y Bunt Gymreig? Polisi tramor ar wahan i Loegr? Byddin Gymreig? Uchel Lys? Oherwydd dyma ydi ystyr annibyniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 05 Tach 2003 10:37 am

Ond Garnet, mi fuasem yn rhan o Undeb Ewropeaidd! Dim bordor controls, yr Ewro, dal deddfau tebyg mewn nifer agwedd.

Soniaist am y gorffenol. Er mai peth drwg yw cylchdroi o'i chwmpas, gwae unrhywun sy'n anghofio'r gwersi a all ddysgu i ni. Fel y crybwyllaist, Y Welsh Not, er engrhaifft. Soniaist am y glofeydd - daeth a ddim cyfoeth i Gymru, a daeth a dim ond brwydro a dioddefaint i lowyr y de yn erbyn meistri o ddosbarth ac o iaith wahanol. Dyma hefyd frwydr y chwarelwyr yn y Gogledd. Gwae ni pe anghofiwn am Frâd Y Llyfrau Gleision, Y Deddfau Uno (neu'r Deddfau Ymgorffoli, fel y'i gelwid nes yr 18fed ganrif), y Deddfau Penyd, Penyberth neu Dryweryn, neu hyd yn oed ffars y cyfrifiad. Beth am aberth y cannoedd aeth i garchar dros yr iaith, yn gorfod aberthu er mwyn i ni gael yr hawl i fyw ein bywydau'n Gymraeg? Beth am y miloedd ar filoedd fu farw neu aeth i'r carchar neu gafodd ffawd gwahanol dros frwydro dros ryddid ein gwlad? I ddyfynnu Gerallt Lloyd Owen: "Byth nid anghofiaf hyn".

A beth mae hanes yn ein dysgu? Yn achos Cymru, fod gormes ddim yn dod i derfyn, a ddaw hi ddim i derfyn, nes fod gan Gymru ei rhyddid, nes ei bod yn cymryd ei lle ymysg y cenhedloedd.

Pe baem yn ymwybodol o'n hanes, mi fydden ni'n dysgu ohoni. Fydden ni'n gallu dysgu mai cenedligrwydd ffug yw Prydeindod. Wedi'r cyfan, datblygwyd y syniad wedi gwrthryfel Bonnie Price Charlie er mwyn tawelu'r Albanwyr, ac hefyd ni'r Cymry. Pe fuasem yn ymwybodol, fe fuasem yn rhydd.

Mae gen i ffydd llwyr mai fy nghenhedlaeth i fydd y rhai cyntaf i weld y Gymru Rydd - yn deyrnged i'r rhai a frwydrodd drosti ac yn rhodd i genhedlaethau'r dyfodol. Unwaith mae pobl Cymru'n deffro, yr awr honno fe ddaw ein rhyddid.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Garnet Bowen » Mer 05 Tach 2003 11:03 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ond Garnet, mi fuasem yn rhan o Undeb Ewropeaidd! Dim bordor controls, yr Ewro, dal deddfau tebyg mewn nifer agwedd.


Dwi ddim yn deallt rhesymeg y ddadl yma - ffeirio bod yn wlad fach mewn cyfundrefn o 4 gwlad, am fod yn wlad fach mewn cyfundrefn o 25 o wledydd? Be' sy'n gwneud i chdi feddwl y medrwn ni gael chwarae teg pan mae gwledydd fel Sbaen a'r Iseldiroedd yn methu cael Ffrainc a'r Almaen i ufuddhau i drefn mae nhw wedi ei lunio eu hunain?

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Soniaist am y glofeydd - daeth a ddim cyfoeth i Gymru, a daeth a dim ond brwydro a dioddefaint i lowyr y de yn erbyn meistri o ddosbarth ac o iaith wahanol. Dyma hefyd frwydr y chwarelwyr yn y Gogledd.


Efallai nad oedd gweithwyr y de yn cael rhannu yn llawn yn ffrwyth eu llafur, ond doedd gweithwyr nunlle arall yn gwneud hynnu chwaith. O leiaf roedd gan y Cymry swyddi i fynd iddyn nhw, a doedd dim rhaid i ni lwgu, ac allfudo i America fel y Gwyddelod. Y chwyldro diwydiannol, a'r Ymerodraeth Brydeinig a oedd yn gyrru'r chwyldro hwnw, oedd achubiaeth yr iaith Gymraeg.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Gwae ni pe anghofiwn am Frâd Y Llyfrau Gleision, Y Deddfau Uno (neu'r Deddfau Ymgorffoli, fel y'i gelwid nes yr 18fed ganrif), y Deddfau Penyd, Penyberth neu Dryweryn, neu hyd yn oed ffars y cyfrifiad.


Ti'n son am bron i 500 mlynedd o hanes yn y fanna. A doedd brad y llyfrau gleision, Penyberth a Thryweryn yn fawr mwy na digwyddiadau symboliadd - doedda nhw ddim yn drychinebau anferth, o bell ffordd.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:A beth mae hanes yn ein dysgu? Yn achos Cymru, fod gormes ddim yn dod i derfyn, a ddaw hi ddim i derfyn, nes fod gan Gymru ei rhyddid, nes ei bod yn cymryd ei lle ymysg y cenhedloedd.


Mae honna'n uffar o naid ddamcaniaethol i'w gwneud. Oherwydd fod hyn wedi digwydd yn y gorffenol, yna mae hi'n anorfod ei fod yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Cenedligrwydd ffug yw Prydeindod. Wedi'r cyfan, datblygwyd y syniad wedi gwrthryfel Bonnie Price Charlie er mwyn tawelu'r Albanwyr, ac hefyd ni'r Cymry. Pe fuasem yn ymwybodol, fe fuasem yn rhydd.


Digon gwir. Cenedligrwydd ffug oedd Prydeindod ar y cychwyn. Ond fedri di ddim taeru mai'r un ydi Prydeindod heddiw a Phrydeindod y 18fed ganrif. Am flynyddoedd maith, roedd Prydeindod yn gyfystyr a Saesnigrwydd. Erbyn heddiw, mae 'na ymdeimlad cyffredinol fod Prydeindod yn rhywbeth aml-ddiwyllianol, sy'n berthnasol i holl bobl Prydain, a eironi'r sefyllfa ydi fod hunaniaeth Saesnig yn prysur ddiflannu. Toes gan y Saeson ddim etifeddiaeth, mond tim peldroed. Mae eu dydd nawddsant yn joc, ac mae eu baner wedi cael ei dwyn gan eithafwyr. Ac mae'r hen sefydliadau cyfreithiol/seneddol yn cael eu datgymalu. Am unwaith, mae'r Cymry - a'r Albanwyr, y Prydeinwyr o dras Asiaidd a Affro-Caribi, hoywon, a merched - mewn sefyllfa gryfach na'r Saeson o fewn y diwylliant Prydeinig, am fod gennym ni gyfraniad unigryw a phendant i'w gwneud i'r Brydain aml-ddiwyllianol.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae gen i ffydd llwyr mai fy nghenhedlaeth i fydd y rhai cyntaf i weld y Gymru Rydd - yn deyrnged i'r rhai a frwydrodd drosti ac yn rhodd i genhedlaethau'r dyfodol. Unwaith mae pobl Cymru'n deffro, yr awr honno fe ddaw ein rhyddid.


Amser a ddengys. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan pogon_szczec » Mer 05 Tach 2003 11:18 am

Chris, pam dad wyt ti'n dileu dy ail neges yn y seiat?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Ifan Saer » Mer 05 Tach 2003 12:37 pm

Mae hogyn o rachub wedi syrthio mewn i'r union grwp o genedlaetholwyr a pleidwyr dwi wedi son amdanynt yn yr edefyn "europhobe" yn seiat materion Cymru.

Mae'n amlwg fod well ganddo gael ei reoli o Frwsel nag o Lundain, pam?

Fel mae Garnet yn deud, anodd gweld sut lais fydd gan Cymru dan y fath drefn.

Onid yw hyn eto yn arwydd o ymdeimlad gwrth-saesnig dall?

Ers pryd mae annibyniaeth yn gyfystyr a bod yn was Brwsel?
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 05 Tach 2003 1:48 pm

Nid cael ein rheoli gan Brwsel, ond yn hytrach fod yn rhan o'r gymuned Ewropeaidd gyda llais cryfaf y buasen ni. Ar y funud mae gan Gymru 5 sedd yn y senedd (4 flwyddyn nesaf, os dwi'n deall yn iawn), tra fod gan Lwcsembwrg 24!! Mae angen mwy o lais i Gymru yn Ewrop. Dim ond gwlad annibynol fuasai'n gweld llais cryfach.

Nid gwrth-Seisnig ydi hi. Gwrth-Brydeinig, ydi, dw erioed wedi mynegi fy nirmyg llwyr tuag at Brydeindod. Rho im ffederaliaeth Ewropeaidd yn hytrach na imperialaeth Prydeinig rhywbryd. Mae Prydain ffederal yn dderbyniol, ond gwell gen i weld gweriniaeth Gymreig.

Dw i ddim o blaid i Gymru cael ei reoli gan Ewrop, ond yn hytrach cael ei llais annibynol yn Ewrop.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Garnet Bowen » Mer 05 Tach 2003 3:06 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Mae Prydain ffederal yn dderbyniol, ond gwell gen i weld gweriniaeth Gymreig.



Aha. Toes na'm cymaint a chymaint rhyngtho ni felly. I feddwl dy fod ti wedi mynegi angrhedinedd fy mod i'n meiddio canu clodydd Prydeindod bora 'ma, ti wedi newid dy diwn. Mae Prydain Ffederal yn "dderbyniol" felly? Dda gen i glywed. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 05 Tach 2003 6:11 pm

Ymddiheuraf am beidio wneud fy hun yn glir (fel arfer, sdim gwadu! :) )

Mi fuasai Prydain ffederal yn dderbyniol yn y modd ei bod yn fwy dderbyniol na'r hyn sydd gennym ni ar y funud. Mae syniad ei hun yn dderbyniol i mi, ond dydw i ddim o'i phlaid, oherwydd mi fuasai o hyd un senedd Brydeinig a fyddai, yn y bôn, yn oll-bwerys, ac wedi ei ddominyddu gan Saeson. Prin fod gan Gymru lais rwan yn y senedd, ac mae rhai yn galw am i ni gael llai o seddau!

Mewn Prydain ffederal ni fuasai gan Gymru rheolaeth lawn dros ei heconomi ei hun (gallet ti ddadlau'n lwyddiannus mai dyma'r achos gyda dyfodiad yr Ewro pe bai Cymru'n yr Eurozone, ond eto efallai y byddai'r Ewro o fudd i Gymru, dydw i ddim yn gwybod y ffeithiau yn hynny o beth). Fysan ni dal yn gorfod dilyn Llundain pe fyddai'r senedd Brydeinig yn mynd i ryfel (fel y gwelsom yn ddiweddar), a ni fydden ni'n rhan o'r UE. Nid fydden ni chwaith yn medru cael sedd ar y Cenhedloedd Unedig (rhywbeth mae'r Blaid wedi sefyll dros ers cyn co', gyda llaw :winc: ).

Ella fod hynny'n clirio pethau i fyny. Neu dy ddrysu'n fwy, mwn!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Chris Castle » Iau 06 Tach 2003 10:27 am

Chris, pam dad wyt ti'n dileu dy ail neges yn y seiat?


Aeth yr un yma lan pan triais i olygu'r llall. Does modd imi ddileu edefyn llwyr a mae Nic yn cael gormod o bobl yn ei fothran fe. Felly wnes i jyst dweud "anghofiwch fe".

Er ein bod ni wedi mynd o gwmpas y pwynt "Dyfodol Prydain" dan edefynnau "Plaid" "Cenedlaetholdeb" ac ati, dwi'n gweld angen dros trafodaeth uniongyrchol am "Brydeindod fel y Bydd".

Mae rhywgau o fewn Plaid Cymru, a Mae rhywgau o fewn Llafur dros y syniadaeth yma.

Un o'r broblemau gwladol yw dioffyg dealltwriaeth o'r syniadau a'r goblygiadau ein polisiau fel Pleidiau, Carfanau gwleidyddol, ac unigolion.

Dwi'n dilyn (datblygu-?-) syniadaeth Ron Davies o ddatblygu Cymru/Cymreictod fel gwlad/hunaniaeth cryf ond goddefgar ac aml-diwylliannol. "Proses yw Datganoli." Gallai hynny arwain at Prydain Ffederal, neu hyd yn oed dileu Prydain fel gwladwriaeth o fewn Ewrop newydd (ond bydd Hunaniaeth Prydeindod yn parhau). Dim Ond amser a ddengys. Dyw e ddim yn bwysig heddi mewn cydtestun problemau eraill Cymru.

Pryf gwahaniaeth rhwng pobl fatha Finnau a phobl fatha'r Hogyn yw Pa mor bwysig yw hunaniaeth a Chenedligroedd inni;
Imi mae Cymreictod yn ffaith, yn bwysig imi, ond dim ond rhan o'r person y rwyf. Dyw Cymreictod ddim yn fy niffinio.
O beth dwi'n gweld, Cymreictod yr Hogyn yw'r "driving force" ei fywyd.

Felly Prydain Ffederal imi - er mwyn sicrhau democratiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai

cron