Pwy welodd raglen Panorama gyda David Cameron a Nick Robinson neithiwr?
Rodd Cameron yn mynd i Birmingham ac yn cael sgwrs gyda 5 o wahanol bobl 'cyffredin' o'r ddinas.
Un o'r rhai hynny oedd mam sengl oedd yn gweithio fel gweithwraig cymdeithasol, o ryw fath. Dyma hi'n herio Cameron ar y ffaith nad yw ei gysgod-gabinet yn cynrychioli pobl cyffredin, ac fod nifer ohonyn nhw filiwnyddion.
Beth oedd ateb Cameron?
"Dyw hynny ddim yn wir. Mae gyda ni ddyn caled o Sir Efrog - William Hague..."
Amddiffyniad cameron felly yn erbyn y cyhuddiad nad yw ei dim yn cynrychioli pobl gyffredin, a'i dystiolaeth (ei unig dystiolaeth) nad yw hynny'n wir yw...William Hague, y dyn 'caled'!
(dyw e ddim ar iPlayer eto, ond pan eith e yna bydde fe'n syniad ei lwytho ar YouTube a gwneud rhywbeth ohono fe! gwych!)