ceribethlem a ddywedodd:Chickenfoot a ddywedodd:Mae pawb yn ethical, os ydyn nhw'n ymddwyn yn ol eu egwyddorion nhw. Fy mhwynt yw nad yw'r "ethical" yn feddwl dim byd yng nghyd-destun PETA. Who's Ethics?
Fi'n anghytuno, mae bod yn ethical yn meddwl dy fod di'n ceisio lleihau niwed i bobl, roedd Hitler wrth reswm ddim yn ethical.
Fi'n credu fod moesau cryf iawn (er rhyfedd iawn i fi) gyda Hitler, ond dadl wahanol yw hynny.
Dwi'n meddwl beth mae Chickenfoot yn ceisio dweud yw bod 'byw yn foesol' yn rhywbeth 'subjective' iawn, hynny yw mae gan pawb moesau eu hunain.
Mae'n rhaid i mi anghytuno gyda dy gosodiad bod byw yn 'ethical' yn meddwl dy fod di'n ceisio lleihau niwed i bobl. Gellir ddadlai bod hi'n foesol i lladd pobl er mwyn osgoi gorpoblogi. Hynny yw mae rhai systemau moesol (iwtalitariaeth er enghraifft) yn gosod mai byw yn moesol yw i sicrhau bod y hapusrwydd mwyaf yn cael ei gwireddu - felly the ends justify the means.
Efallai mae dy foesau di yn meddwl mai caisio lleihau niwed i bobl sy'n gywir. Ond nid yw hwnnw yn golygu bod gan pobl eraill yr un set o foesau. Ac wrth gwrs mae dyn yn gofyn wedyn beth a olygir gan "leihau niwed"?
Ydi hi'n anfoesol i tori coes (gwneud niwed) i berson trwy wthio nhw i'r llawr er mwyn arbed nhw rhag car sy' bron a fwrw i mewn iddyn nhw?