S4C dros y Byd?

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Sad 20 Rhag 2008 4:13 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Os mae costau clirio hawliau rhyngwladol yn ormod yna efallai dylai S4C ystyried system pay per view ar gyfer gwylwyr tramor?


Wel mi fuaswn i'n fodlon talu am wylio rhai rhaglenni mae'n debyg tasa rhaid...tebyg i'r system 'pay per view ' sydd gennym ar Shaw cable rwan. Ond beth sydd yn gwneud fi'n flin am hyn ydi bod y rhan fwyaf o'r rhaglenni ar S4C ar gael i ni ar y we tan ychydig yn ôl , a mwya sydyn pfft ! :drwg: mae nhw i gyd [ mwy neu lai ] wedi diflannu !
Asuka , Emma .....a fuasech yn fodlon sgwennu i S4C hefyd ogydd. i leisio'ch barn ? :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan asuka » Sad 20 Rhag 2008 2:27 pm

byddwn. dylwn. gwnaf! p'un fyddai'n well, ti'n meddwl - llenwi'r ffurflen fach sydd ar eu gwefan nhw neu hala llythyr go iawn at y bois yng nghaerdydd? yr ail, mae'n debyg. neu y ddau!
mae ddi yn drist. trist i ni oedd yn arfer joio'u rhaglenni ar y we, ac i'r sawl oedd yn iwsio s4c wrth addysgu cymraeg tramor.
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Emma Reese » Sad 20 Rhag 2008 3:35 pm

Dw i newydd sgwennu i S4C. Mi na i sgwennu i'r grwp ddysgwyr dw i'n aelod ohono hefyd ac annog yr aelodau eraill i sgwennu i S4C.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Sad 20 Rhag 2008 4:59 pm

Diolch Asuka , Emma . :D
Gyda llaw, defnyddio'r ffurflen ar wefan S4C wnês i , ond efallai buasai llythyr go iawn yn rhoi mwy o glowt ! :crechwen:

Asuka :
trist i ni oedd yn arfer joio'u rhaglenni ar y we, ac i'r sawl oedd yn iwsio s4c wrth addysgu cymraeg tramor.


Mae hynny'n bwynt pwysig iawn !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan asuka » Sad 20 Rhag 2008 6:50 pm

ie, ombai bod neb yn malio ddim am ddysgwyr tramor, mae'n debyg.
hei, aros eiliad. does 'da neb ots am ddysgwyr tramor... yn unman ond... Y WLADFA!
os gallwn ni gael hyd i ddosbarth yn yr ariannin oedd yn arfer gwylio s4c yn gyson ond sy ddim yn gallu erbyn hyn, waw - gwelwn erthygl yn GOLWG... barn y cyhoedd o'n plaid ni... gwir newidiadau! :P
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Sul 21 Rhag 2008 5:15 pm

:D
Dwi'n meddwl fod Carwyn Edwards [ Cymdeithas Cymraeg Arizona] wedi defnyddio'r rhaglenni Cymraeg ar un adeg . Wyt ti'n gyfarwydd a'r Rhwydwaith Gymdeithasol i Gymry America? Dwi heb ymaelodi eto , a heb edrych i mewn i'r fforymau i weld os oes 'na rywun arall [ yng Ngogledd America beth bynnag ] yn grac am y sefyllfa.

Gyda llaw , mae 'na ddyfais i'w gael .....ond mod i wedi anghofio'r enw arno rwan . :wps: Eniwê, mae'n 'caniatau' i ti weld rhaglenni o'r DU ar dy deledu di drwy'r cyfrifiadur, ond fod rhaid i ti gael y cysylltiad efo person arall yn y DU. Fe wnai wneud ymholiadau......
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 21 Rhag 2008 8:19 pm

Mae modd gweld S4C yn fyw (yn cynnwys pob rhaglen, hysbysebion ayb) o unrhywle yn y byd trwy ddefnyddio rhaglen rhad ac am ddim gwych Zattoo - http://zattoo.com/

Gweler yma...

I'd recommend using Zattoo to watch S4C online as the official stream excludes some programmes it doesn't have rights to and all the adverts are streamed on there so you're not just staring at a boring image for three minutes.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Sul 21 Rhag 2008 10:38 pm

Diolch yn fawr Hedd. Wedi mynd i mewn i'r linc Zattoo, a dyma'r neges gefais i :

You seem to be accessing the Zattoo website from a country we do not yet serve. Please enter your country of residence below, and when our service is available there, we will contact you.


Anodd gen i gredu nad ydi'r gwasanaeth ar gael yng Nghanada eto , ond dwi 'di adio fy nghyfeiriad e bost a gobeithio am y gorau !! :D

Asuka , Emma , ydio ar gael yn America tybed ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan asuka » Sul 21 Rhag 2008 11:03 pm

Mali a ddywedodd:Asuka , Emma , ydio ar gael yn America tybed ?
na' dy. smo nhw 'di llwyddo i gyrraedd u.d.a. 'chwaith mae'n ymddangos! o wel.
cefais i gip clou ar y "rhwydwaith cymry america" a ffaelu gweld bod dim trafodaeth 'di bod ar hyn i gyd hyd yn hyn. rwy'n siwr bod pawb wedi sylwi, ond smo nhw 'di dod at ei gilydd drosto eto.
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Maw 23 Rhag 2008 12:36 am

Wedi cofio enw'r ddyfais sydd yn galluogi pobl i weld rhaglenni S4C unrhyw le yn y byd ....'sling box' . Ond dwi ddim yn gwybod ddim llawer mwy amdano chwaith ... :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron