Helo maeswyr,
Dwi wrthi yn ysgrifennu fy noethuriaeth ac wedi dod ar draws sefyllfa cyffredin yn y ‘data’ lle teimlais doedd dim gair Saesneg yn disgrifio’r sefyllfa mor dda â’r gair Cymraeg. Nid wyf yn ddigon siŵr o'n hun a fy ngallu ieithyddol ac felly hoffwn glywed eich syniadau ar y mater cyn penderfynu beth i’w wneud.
Y sefyllfa yw: Fod cleifion yn mynd at y meddyg hefo e.e. hen anafiad pen-glin sy’n achosi lot o boen a thrwbl iddynt. Mae’r meddyg yn deud gallent cael llawdriniaeth arni ac yn gwneud referral. Maent yn gweld arbenigwr sy’n deud gallent gwneud y llawdriniaeth ond does ddim modd gwarantu wneith o weithio, ellid mynd o chwith (risg bach), ond os eith yn iawn fydd o llawer iawn gwell. Mae’r claf yn poeni am y posibiliadau, yn mynd am gwahanol opiniynau, yn osgoi y llawdriniaeth (gan poeni am iddo fynd o chwith ond hefyd y ffaith fod ar ôl iddo gael o fydd yr opsiwn ene wedi mynd a fydd na ddim gobaith o’i flaen – dim ‘safety net’ fel petai)...ar ôl mynd trwy pob dewis posib yn ei ben mae’n mynd nol i’r meddyg i trafod y symptomau eto....mae o wedi troi mewn cylch ac yn dal i droi gan fod e’n ‘stuck’.
Y gair a ddaeth i mi am y sefyllfa oedd “Penbleth”. Ar ôl trio defnyddio’r geiriau ‘circle over diagnosis’ (a’r goruchwylwyr yn deud doedd hynna ddim yn glir) wnes i gynnig un neu ddau o bethau eraill (eto doedden nhw ddim yn hapus) felly es i at y geiriadur a edrych ar cyfieithiad y gair ‘Penbleth’, ag, yn fwy na dim, y sefyllfa o fod “Mewn Penbleth”. Y geiriau agosaf oedd “perplexity” neu “Quandry” ond i fi, dyw’r geiriau yma ddim cweit yn iawn a fyswn i ddim wedi tybio ei bod nhw yn disgrifio’r sefyllfa yma...
Hoffwn pe bai y gair Penbleth, fel rwyn teimlo ei fod e, yn disgrifio’r sefyllfa a’r geiriau Saesneg ddim achos pan siaradais hefo fy ngoruchwylwyr gan ddeud wrthynt beth oeddwn wedi bod yn meddwl a gofyn prun air Saesneg roeddynt am i mi ei ddefnyddio, dyma un ohonyn nhw yn deud os roedd hyn yn wir ddylwn defnyddio’r gair “Penbleth”, ei roi yn y glossary ai hesbonio, ag felly fyddwn wedi ‘coinio phrase’, fel mae llawer yn ei wneud hefo geiriau Ffrangeg.......ond ydw i’n iawn neu jest yn malu chachu mewn rhyw cylch o procrastineiddio?
Os oes unrhyw un yn dal yn darllen hwn hyd yma, diolch i chwi....a plîs help!