Jest wedi dychwelyd o daith fer i Lundain. Gret, ond ym mhobman roedd 'Willkommen', 'Bienvenue', 'Benvenuto' ayyb. Ni welais 'Failte' na 'Croeso' yn unman. (Dwi'n son am yr holl atyniadau amlwg). Dwi'n credu dylen anfon rhyw llythyr o brotest i hen Boris. Pam ydy ieithoedd estron yn cael mwy o groeso na ieithoedd Prydeinieg eraill? Pa neges ydy hyn yn rhoi i 'Brydeinwyr' (sori am y term ) sy ddim yn dod o Loegr? Nac ydynt yn mynnu taw Llundain yw Prifddinas Prydain, nid Lloegr yn unig?
Stim cliw 'da fi beth i wenud amdano, jest ishe gwyntyllu. Unrhyw un arall yn teimlo'r un ffordd?