Dw i newydd ddarllen adolygiad Kate Crockett o nofel Wiliam Owen Roberts, Petrograd yma. Ynddi, mae'n dweud "Er na ellid fod wedi ysgrifennu nofel fel hon heb grugyn o waith ymchwil ..."
Ydi hynny'n iawn? Mae'n swnio'n rhyfedd i mi. I mi, mae "crugyn" yn golygu nifer fawr yn hytrach na swmp mawr. "O'dd crugyn o bobol 'na".
Mae GPC yn dweud "gweler crug" - grŵp, clwstwr, cwmni, lliaws, nifer mawr.
Ydi Kate Crockett wedi camddeall neu ydi "crugyn" wedi newid ei ystyr ers i fi adael y de?
Edrych mlaen at ddarllen y nofel, gyda llaw.