(O http://www.bbc.co.uk/C2 + Bandit247.com)
Mae RACE HORSES, a adnabyddir eisoes fel Radio Luxembourg, yn dathlu ei henw newydd gyda drymiwr newydd a rhyddhad ei sengl dwy ochr-A hir ddisgwyliedig yn Ebrill.
Am y newid enw, dywedodd y prif leisydd Meilyr Jones, “Wnaethon ni arwyddo i label yn yr Hydref a fydd yn rhyddhau ein recordiau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Daeth hi i’r amlwg yn o sydyn fod yn rhaid inni newid ein henw oherwydd dychweliad ar-lein yr orsaf radio enwog ac fe benderfynon ni y byddai’n well inni osod ein hunain ar wahân o’r dryswch posib. Ac felly penderfynon ni newid ein henw i... Race Horses.”
Mae’r enw Race Horses yn disgrifio sut mae’r band yn teimlo ar y foment- llawn momentwm a chyffro, ychwanegodd Meilyr,
“Mae pob dim yn teimlo’n iawn ar y funud. Gwion Llewelyn yw ein drymiwr newydd a ry’n ni i gyd yn teimlo yn mor ffres ac yn llawn egni. Ni’n edrych ymlaen gymaint at y sengl newydd sy’n cynnwys un gân Gymraeg ac un Saesneg. Mae’r gân Gymraeg yn un o’r darnau creadigol mwyaf uchelgeisiol ni erioed wedi recordio a ni’n edrych mlaen i bawb arall glywed e.”
Bydd y band yn perffomrio am y tro gyntaf fel Race Horses yn Tommys Bar, Caerdydd ar ddydd Gwener 13eg Chwefror. Felly dewch yn llu, gwisgwch eich trwseri joci a byddwch barod am yr annisgwyl!
http://www.myspace.com/racehorsesmusic