Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Ion 2008 12:16 pm

Wrth i faes-e dyfu, dyn ni'n ffeindio bod 'na alw am seiadau newydd o bryd i'w gilydd. Yn aml iawn, ni fydd y seiadau 'ma o ddiddordeb i bawb sy'n ymweld â'r maes, neu, o bosib, mae rhesymau eraill pam dydy pobl ddim eisiau'r seiat i fod yn agored i bawb. Yn achosion fel hyn, mae'n well 'da ni greu seiat preifat sy'n agored i aelodau un o'n "cylchoedd defnyddwyr".

I bobl sy ddim yn aelod o'r cylch priodol, ni fydd y seiat yn ymddangos ar dudalen flaen y maes, a ni fydd y negeseuon sy'n cael eu postio ynddynt yn ymddangos ymysg y "negeseuon newydd". Yr unig ffordd i weld y seiat, ac i gyfrannu ato, yw i ymuno â'r cylch yn gyntaf. Os dwyt ti ddim yn gweld unrhyw seiat ond yr un mae'r edefyn hwn wedi'i bostio ynddo yn y categori "Cylchoedd Defnyddwyr", dwyt ti ddim yn aelod o unrhyw gylch defnyddiwr. Sorto dy hun, mas, ychan!

Sut mae ymuno â chylch?

Cer at y panel Rheoli Personol (top chwith ar ol i ti fewngofnodi). Yma cei di ymaelodi gyda'r Cylchoedd Defnyddwyr amrywiol. Dylet ti gael neges croeso o fewn cwpwl o ddiwrnodau, ond bydd yn amyneddgar, mae rhai ohonon ni gyda bywydau tu fas i faes-e!

Beth wedyn?

Pan fyddi wedi cael dy dderbyn, byddi yn gweld y seiat perthnaol ar waelod y dudalen ar ol mewngofnodi a byddi di'n gallu darllen a chyfrannu fel yn bob seiat arall ar y maes. Os wyt ti'n gymedrolwr Cylch, bydd modd i ti reoli'r cylch yma hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan WoganJones » Iau 22 Ion 2009 6:49 am

Annwyl Hedd,
Pennaeth Adran Gymraeg ydw i sy’n gweithio mewn Ysgol Uwchradd ddwyieithog yn y Canolbarth. Hoffwn awgrymu agor ‘seiat/cylch’ ar gyfer athrawon sy’n dysgu Cymraeg fel pwnc led led Cymru. Ar ol mynychu cwrs CBAC ddoe ces i fy atgoffa pa mor brin yw’r cyfleoedd i drafod materion sy’n effeithio arnom e.e. newidiadau o ran arholiadau TGAU a Safon Uwch, portfolios Cyfnod Allweddol Tri ayyb. Mae angen fforwm agored, answyddogol lle mae pawb yn rhydd i leisio barn heb ofn. Dw i’n credu bod angen rhywbeth fel hyn er lles ni i gyd. Weithiau mewn cyfarfodydd swyddogol dw i’n meddwl bod athrawon Cymraeg yn rhy swil o lawer wrth gofyn cwestiyau sy’n becso nhw a weithiau yn gadael yn teimlo’n grac ac yn siomedig a’r ‘system addysg’. Yn ogystal, ar ol clywed sawl peth am beth mae APADGOS (hen ACCAC) wedi bod yn awgrymu yn ddiweddar efallai mae angen ffurfio rhyw fath o ‘Cymdeithas Athrawon Cymraeg’ (oes un yn barod?)
Ond efallai bydd fforwm fel hyn yn ddechrau da. Beth amdani?

Gallen ni ddechrau gyda ddau gwestiwn dadleuol:

1. Ydy addysg Gymraeg yn ‘gweithio’ yn eich ysgol chi yn eich barn chi? Hynny yw, cyrraedd y nod o greu Cymry Cymraeg y dyfodol. Mae angen trafod y pwnc hwn ond efallai bod rhai yn meddwl ei fod e’n ‘tabw’. Ydy’ch disgyblion chi yn siarad Cymraeg? Pa fath o Gymraeg ydyn nhw siarad?

2. O ran athrawon ail iaith, hoffwn groesawu sylwadau ar y TGAU newydd ail iaith (Cyffredinol/Cyfredol) sy’n dechrau yn 2010. Ydy APADGOS yn wir yn gwrando arnon ni, yr arbenigwyr proffesiynol?
i wneud heb wneud - dyna wu wei bois bach!
WoganJones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 28 Hyd 2008 9:54 pm

Re: Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan ceribethlem » Iau 22 Ion 2009 11:05 am

Yn dilyn syniad Wogan Jones, beth am cylch addysg cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol? Dim ots pa bwnc, ond ei fod drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd seiadau penodol ar gyfer y pynciau unigol yn dod yn naturiol o fewn hynny.
Bydden i'n tybio bydde fe'n mynd, naill ai o dan y Seiat iaith, neu'r seiat Materion cyfoes orau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 22 Ion 2009 2:17 pm

Ai Cylch gyda Seiat breifat ydy chi eisiau, h.y. mai dim ond y rhai sydd wedi ymaelodi â'r cylch gall weld a postio negeseuon, neu seiat agored i bawb?

Yw'r syniad o seiat ar gyfer athrawon sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn apelio at mwy o bobl? Beth am athrawon cynradd ac uwchradd? Y rhai sy'n dysgu'r Gymraeg i oedolion? Darlithwyr?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan ceribethlem » Iau 22 Ion 2009 2:29 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ai Cylch gyda Seiat breifat ydy chi eisiau, h.y. mai dim ond y rhai sydd wedi ymaelodi â'r cylch gall weld a postio negeseuon, neu seiat agored i bawb?

Yw'r syniad o seiat ar gyfer athrawon sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn apelio at mwy o bobl? Beth am athrawon cynradd ac uwchradd? Y rhai sy'n dysgu'r Gymraeg i oedolion? Darlithwyr?

Yn bersonol (methu siarad dros Wogan Jones wrth reswm) fi'n credu fydde seiat addysg cyfrwng Cymraeg agored yn denu mwy o ddiddordeb. Bydde is-seiadau ar gyfer pynciau penodol (neu cynradd wrth gwrs) yn gallu cael eu gosod o fewn y prif seiat.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan WoganJones » Mer 28 Ion 2009 11:13 pm

Diolch am eich sylwadau!
Byddai seiat ar gyfer athrawon 'Cyfrwng Cymraeg' yn gwneud y tro...beth amdani? Beth am hysbysebu fe drwy CBAC, CYDAG ayyb? Oes gan bobl syniadau am sut i lansio fe?
Rhowch wybod...
Wogan Jones
i wneud heb wneud - dyna wu wei bois bach!
WoganJones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 28 Hyd 2008 9:54 pm

Re: Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 05 Chw 2009 10:28 pm

Dim problem, fe wnaf drefnu hwn yn y dyddiau nesaf. Ti am fod yn weinyddwr Wogan?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Croeso i Gyntedd y Cylchoedd

Postiogan Gwydion - CBAC » Gwe 08 Mai 2009 3:37 pm

WoganJones a ddywedodd:Beth am hysbysebu fe drwy CBAC...?
Newydd geisio dod yn aelod (fi'n credu) - ac yn hapus iawn i geisio canfod lle ar safle CBAC - o gael paragraff neu ddau o ddisgrifiad
Rhithffurf defnyddiwr
Gwydion - CBAC
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 08 Mai 2009 2:01 pm
Lleoliad: Cymru


Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai