Hoffwn ddechrau cylch ar gyfer athrawon Cymraeg/Cyfrwng Cymraeg led led Cymru er mwyn trafod sefyllfaoedd o ran addysg Gymraeg, cyflwr yr iaith yn eu hysgolion, cefnogaeth rhieni ayyb yn eu hardaloedd nhw. Hoffwn weld fforwm sy'n onest ac yn agored sy'n mynd i fod yn help i athrawon drafod y pethau sy'n eu becso nhw fwyaf. Does dim amser i athrawon edrych lan heb son am gwrdd yn gyson yn gorfforol - dim ond ar y we allwn ni wneud hyn. Mae angen fforwm athrawon Cymraeg, yn enwedig i'r rhai ohonom sy'n bell i ffwrdd o ysgolion eraill.
Beth amdani? Os oes diddordeb sgwennwch neges yma. Mae angen 5-6 o aelodau i ddechrau seiat/cylch.
Wogan Jones