gan Chickenfoot » Llun 09 Chw 2009 10:32 am
Mae credoau'r Mormoniaid yn hollol wallgof e.e. y syniad mai Israeliaid coll yw'r Americaniaid brodorol, Iesu a Lucifer yn frodyr, pobl du yn angylion cafodd eu cosbi gan na wnaethant ymladd yn erbyn Lucifer.
Ond eto, mae credoau Mwslemiaid, Iddewon a Cristnogion braidd yn wirion hefyd. Duw yn danfon ei fab (sydd yn Dduw hefyd) ar suicide mission i arbed pobl rhag fynd i'r uffern, er bod Duw wedi rhoi safonnau amhosib i ni gyrraedd yn y lle cyntaf. Ac wedyn, os nad ydych yn derbyn Zombie 2,000 mlwydd oed (sydd hefyd yn ysbryd ac yn dduw) fel eich gwaredwr, mi ewch i'r uffern.
Dw i wedi cyfarfod ambell i Mormon - a dwi wedi gweld y grief mae nhw'n cael gan yobs yn dref am genhadu - a mae nhw i weld yn bobl neis iawn. Os ydyn nhw isio credu rwtsh am Joseph Smith (dumb, dumb, dumb, dumb), mae perffaith hawl ganddyn nhw. Mae dipyn o son wedi bod yn y gorfennol am seremoniau rhyfedd, hiliaeth (doedd pobl du ddim yn gallu bod yn offeiriaid LDS tan y 70au, er enghraifft) ond mae dipyn o ffaeleddau gan egwlysi confyensiynol hefyd.
A mae "Crazy Horses" yn gan roc gwych.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M