Stori o wefan y BBC:
Cwyn am sylw 'hiliol' cynghorydd
Mae'r cyngor yn edrych ar ad-drefnu addysg yn y sir
Mae cwyn swyddogol wedi ei gwneud yn erbyn cynghorydd Llafur yng Nghaerdydd am ddisgrifio'r ymdrechion i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn y brifddinas fel "puro ethnig".
Fe wnaeth y Cynghorydd Ramesh Patel, sy'n gweithio yn swyddfa etholaeth Rhodri Morgan, ymddiheuro am y geiriau.
Cafodd y sylw ei wneud mewn cyfarfod cyhoeddus oedd yn trafod proses o ad-drefnu addysg yn y ddinas.
Ond mae Mr Patel yn dal i fynnu na fydd yn newid ei safbwynt.
Dywedodd ei fod yn dal i gredu bod cynlluniau'r cyngor i ehangu addysg Gymraeg yn y ddinas yn mynd i greu "arwahanu dianghenraid".
Mae Plaid Cymru hefyd wedi cyhuddo'r cynghorydd am geisio tanio ffrae ar hiliaeth.
'Tensiwn'
Mae Neil McEvoy, dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dweud bod cefnogwyr Llafur yn ceisio rhannu cymunedau er eu budd gwleidyddol.
Galwodd hefyd ar Mr Morgan - sy'n cyflogi Mr Patel - i gondemnio'r sylw.
"Mae rhieni wedi cysylltu gyda mi ac wedi cwyno yn syth ar ôl y cyfarfod," meddai Mr McEvoy.
"Mae'n bryderus bod cynghorydd sy'n cael ei gyflogi gan Rhodri Morgan yn creu tensiwn hiliol er budd gwleidyddol."
Dywedodd Mr McEvoy ei fod wedi trafod gyda swyddogion y cyngor a wnaeth gadarnhau yn union yr hyn a ddywedodd Mr Patel.
Ychwanegodd cynghorydd Plaid Cymru ar y cyngor, Mohammed Sarul Islam, na fydd pobl y ddinas yn cael eu twyllo gan sylwadau Mr Patel.
"Mae pobl ar draws y ddinas, o ba bynnag gefndir ethnig, yn gwbl ymwybodol o'r dewis i gael addysg Gymraeg neu Saesneg i'w plant," meddai.
'Gofid'
"Yr hyn mae'n rhaid i'r cyngor ei sicrhau ydi bod llefarydd ar gael yn yr ysgolion er mwyn parhau i gynnig y dewis hwnnw.
"Yn ôl y ffeithiau, mae mwy o deuluoedd, o bob cefndir, yn dewis addysg mewn ysgolion Cymraeg ac mae angen i'r cyngor gynyddu'r ddarpariaeth hwnnw."
Mewn ymateb fe ddywedodd Mr Patel, sy'n gynghorydd yn Nhreganna, ei fod yn ymddiheuro os wnaeth ei ddewis o eiriau achosi unrhyw ofid.
"Rwy'n dal at fy nadl a wnes i yn y cyfarfod nad ydi'r cynlluniau y cam cywir ar gyfer Treganna.
"Rwyf am i'r gymuned gosmopolitan sydd yng Nghaerdydd gael ei adlewyrchu yn yr ysgolion yn Nhreganna a Glanyrafon.
"Fydd y cynllun a gafodd ei gyflwyno gan y glymblaid sy'n rheoli'r ddinas, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ddim yn cyrraedd y nod yma ac fe fyddwn ni'n creu cymuned fydd wedi ei gwahanu yn ddianghenraid."