Dw i'n gwybod fod yr edau 'ma wedi marw ond does dim eisiau arna fi bostio edau newydd - basai hynny'n sbamio dw i'n meddwl. Mae'n ddrwg gyda fi am unrhyw gamgymeriadau ieithyddol (dw i'n ddysgwr). Hefyd dyma fy mhost cyntaf yma.
Ar hyn o bryd mae un defnyddiwr Celwyddoniadur sy'n weithgar a sy'n siarad Cymraeg, sef fi, ac mae 82 erthygl gyda ni. Mae'r wici yn anweithgar (ydy hyn yn air?) ac yn fach. Oes rhywun yma sy eisiau cyfrannu? Dw i'n ysgrifennu erthyglau o dro i dro ond i wneud wici yn fyw mae angen mwy o ddefnyddwyr nag un yn cyfrannu, yn arbennig pan mae'r defnyddiwr yn ddysgwr fel fi.
Mae'n haws iawn i olygu Celwyddoniadur. Mae'r testun isod yn dod o
Wicipedia ond mae'n addas ar gyfer Celwyddoniadur hefyd:
A wyddoch chi? Yn ogystal â darllen y gwyddoniadur, gallwch ein cynorthwyo i'w ddatblygu a'i wella! Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl drwy glicio ar y gair "Golygu" ar ei brig. Os nad ydyw'n bodoli eto, gallwch greu un newydd.