Duw'n Creu'r Byd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Duw'n Creu'r Byd

Postiogan Orcloth » Llun 16 Chw 2009 3:01 pm

Darllenais lythyr yn y "Daily Post" rhai misoedd yn ol, ei dorri allan a'i lynu ar ddrws cwpwrdd yn y gegin. Ro'n i'n meddwl byswn yn ei rannu hefo chi:- (Dwi di trio ngora hefo'r cyfieithu)

"Ar ol i Dduw greu'r byd, gofynnodd yr Angel Gabriel nad oedd O di bod yn rhy hael hefo'r Cymry, gan iddo roi glannau mor hardd, llynoedd llawn pysgod o bob math, mynyddoedd a dyffrynoedd gogoneddus, adar ac anifeiliaid o bob math, ac ar ben bob dim, gadael iddynt siarad iaith y Nefoedd. Atebodd Duw mai hollol gywir fyddai tyb Gabriel yn gyffredin, ond roedd y Cymry yn haeddu'r holl bethau, oherwydd y cymdogion roeddynt yn gorfod eu ddioddef."

O'n i'n meddwl bod hyn yn ffordd dda iawn o weld y peth!
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Duw'n Creu'r Byd

Postiogan osian » Llun 16 Chw 2009 3:13 pm

Heeen joc. pwy ddiawl yrrodd hwnna fel llythyr i bapur newydd [the obligatory 'sic'], a pwy ddiawl benderfynodd gyhoeddi o?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Duw'n Creu'r Byd

Postiogan Orcloth » Llun 16 Chw 2009 3:16 pm

osian a ddywedodd:Heeen joc. pwy ddiawl yrrodd hwnna fel llythyr i bapur newydd [the obligatory 'sic'], a pwy ddiawl benderfynodd gyhoeddi o?


Wel, os oedd hi'n "heeen joc", to'n i rioed di chlywed hi, beth bynnag! "Sori bo fi'n pori", fatha sa Caleb yn ddeud! (M. Evans o Bangor oedd di gyrru'r llythyr i'r Daily Post). O'n i'n meddwl fod o'n un da, eniwe.
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Duw'n Creu'r Byd

Postiogan Duw » Llun 16 Chw 2009 3:57 pm

Dwi'n meddwl os oedd traffordd yn mynd o'r De i'r Gogledd, byddech wedi'i chlywed 10 mlynedd yn ol. Piti.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw'n Creu'r Byd

Postiogan Orcloth » Llun 16 Chw 2009 4:01 pm

Duw a ddywedodd:Dwi'n meddwl os oedd traffordd yn mynd o'r De i'r Gogledd, byddech wedi'i chlywed 10 mlynedd yn ol. Piti.

I be ddiawl fysa ni isio i chi'r hwntws ddod i fyny fan hyn mor rhwydd a hynna? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Duw'n Creu'r Byd

Postiogan Mali » Llun 16 Chw 2009 4:40 pm

:lol:
Orcloth....dwi 'di clywed hon o'r blaen hefyd , ond yn mwynhau ei chlywed hi bob tro ! :D
Diolch am ddod a dipyn o ysgafnder i'r fforwm Ffydd a Chrefydd ...... 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Duw'n Creu'r Byd

Postiogan Duw » Llun 16 Chw 2009 5:17 pm

Orcloth a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Dwi'n meddwl os oedd traffordd yn mynd o'r De i'r Gogledd, byddech wedi'i chlywed 10 mlynedd yn ol. Piti.

I be ddiawl fysa ni isio i chi'r hwntws ddod i fyny fan hyn mor rhwydd a hynna? :winc:


Dyna'r tric! Nawr oedd hwnna YN ddoniol. Cadw'r diawled allan o'r nefoedd yfe? :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw'n Creu'r Byd

Postiogan Orcloth » Llun 16 Chw 2009 6:24 pm

Duw, ia, wel, chdi ddudodd, te? Fedrith hi'm bod yn nefoedd lawr yn sowth na hefyd, na fedrith? :winc:

A Mali, diolch i ti am dy eiriau caredig! O leia nes ti'm brathu mhen i ffwrdd, er dy fod ti hefyd wedi clywed y stori o'r blaen! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron