Darllenais lythyr yn y "Daily Post" rhai misoedd yn ol, ei dorri allan a'i lynu ar ddrws cwpwrdd yn y gegin. Ro'n i'n meddwl byswn yn ei rannu hefo chi:- (Dwi di trio ngora hefo'r cyfieithu)
"Ar ol i Dduw greu'r byd, gofynnodd yr Angel Gabriel nad oedd O di bod yn rhy hael hefo'r Cymry, gan iddo roi glannau mor hardd, llynoedd llawn pysgod o bob math, mynyddoedd a dyffrynoedd gogoneddus, adar ac anifeiliaid o bob math, ac ar ben bob dim, gadael iddynt siarad iaith y Nefoedd. Atebodd Duw mai hollol gywir fyddai tyb Gabriel yn gyffredin, ond roedd y Cymry yn haeddu'r holl bethau, oherwydd y cymdogion roeddynt yn gorfod eu ddioddef."
O'n i'n meddwl bod hyn yn ffordd dda iawn o weld y peth!