Mae hwn yn ddatblygiad newydd pwysig, ac felly wedi cychwyn edefyn newydd yn ei gylch. Gweler y neges isod gan Duw. Diolch yn fawr iddo am ei waith.
Duw a ddywedodd:Y MurDyma mur, yn debyg i'r hyn sydd ar sawl safle fel Facebook ac ati. Mae modd i chi ysgrifennu sylw i fur eich hunain neu i un rhywun arall. Wrth fewngofnodi, gallwch weld o'r bar o dan y pennyn os ydych wedi derbyn sylw newydd. Cofiwch fydd modd i bawb weld y sylw hwnnw!
Golwg cyflym ar y mur:
Os oes problem wrth ei ddefnyddio, rhowch NB i mi yn ddiymdroi.
Mwy o ategynnau/mods i ddod.