Mae flin gen i am ofyn gwestiwn eithaf syml ond pryd dwi'n defnyddio gwirydd sillafu mae'n wastad yn codi lan "Dw" fel gair anghywir. Y cewstiwn yw hon, beth yw'r fersiwn cywir: dw i neu dwi'n. diolch pawb! Geraint.
Dwi ddim yn credu bo unrhyw un ohonyn nhw'n gywir - rwi, rw i, rydw i, rwyf ac ati am byth amen - talfyriadau o 'yr ydwyf i' a 'nid ydywf i' (o fy neall i - er mae 'real heavyweights' y seiat 'ma'n gallu manylu'n bellach dwi'n siwr).
Dydi'r llyfrau gramadeg 'safonol' - Peter Wynn Thomas a David Thorne - ddim yn sôn am y naill na'r llall hyd y gwela i. PWT - wyf yn safonol a wy, 'rwy, 'dwy, 'rydw yn llafar DTh - wyf, ydwyf yn safonol ac (yd)w yn llafar
Dwi'n tueddu i sgrifennu dwi yn weddol anffurfiol - achos mai Fi dwi'n ddweud, dwi'n meddwl!
Mae Modern Welsh gan Gareth King - i ddysgwyr dwi'n meddwl - yn rhoi dw i
Byswn i'n meddwl taw'r ffurfiau gwreiddiol llafar yw pethach fel fi, yfi, wi, dw i ayb ac nid talfyriadau o ffurfiau fel yr ydwyf i. Wi'n siwr bod yr ydywyf fi yn ffurf lenyddol a grewyd i roi dillad parch ar wi, fi ac ati.
Er hynny, wi'n meddwl bod nhw'n gweud mi'r ydw i yn y Gogledd sy'n reit debyg i yr ydwyf i, felly falla bo fi'n gyfeiliornus fan hyn.