Gallwch ddanfon llythyr at gyfarwyddwr addysg Sir Gaerfyrddin yn son am eich awydd i barhau gydag addysg Gymraeg yng nghwm Gwendraeth, naill ai ei hala drwy e bost neu drwy'r post. Isod mae copi o'm llythyr i wedi ei hala at
VMorgan@carmarthenshire.gov.ukMr Vernon Morgan
Cyfarwyddwr Addysg a gwasanaethau plant cyngor Sir Gaerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1JP
Cyfeiriad a dyddiad
Annwyl Gyfarwyddwr addysg,
Parthed: Ymgynghoriad Diwygio Tair Lefel yn ardal Cwm Gwendraeth / Dinefwr
Rwy’n siwr eich bod yn hollol gytun bod angen diogelu natur ieithyddol y ddarpariaeth bresennol a gynigir yn Ysgol Maes-yr-Yrfa yng Nghefneithin, sef categori 2A, yn ôl diffiniad y Cynulliad Cenedlaethol. Mae newidiadau yn anorfod, felly mae’n holl bwysig i allu parhau gyda’r addysg Gymraeg gwych a gynigir yng nghwm Gwendraeth yn barod. Ymhellach i hynny, ein gweledigaeth fyddai gweld sefydlu Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg categori 1, ble addysgir pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl.
Ar hyn o bryd mae pob un o ysgolion cynradd yr ardal yn ysgolion a ddiffinnir fel ysgolion categori A, a byddai datblygiad o’r fath yn cynnig dilyniant ieithyddol i’r holl ddisgyblion hynny er mwyn diogelu a datblygu eu sgiliau ieithyddol fel eu bod yn gadael y system aadysg yn meddu ar sgiliau cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd. Bydd angen darpariaeth hefyd ar gyfer hwyr ddyfodwyr wrth gwrs, a gellir gwneud hyn trwy gynnig cyrsiau dwys ‘Wlpan’ yn yr ysgol.
Rwy hefyd yn cefnogi’r ymgyrch yn ardal Llandeilo / Llanymddyfri i sefydlu ysgol categori 1 neu 2A yn yr ardal honno. Mae’n warthus nad oes un eisioes yn bodoli yn yr ardal o ystyried fod 75% o’r plant yn mynychu ysgolion cynradd categori A. j
Ceir tystiolaeth ddiamheuol o’r manteision addysgiadol, cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd y byddai sefydlu ysgol o’r fath yn ei gynnig i’n plant.
Hyderaf y caf eich cefnogaeth ar y pwnc tyngedfennol hwn.
Yn gywir,
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.