Byddai'n beth da yn wir i weld ychydig o sôn am y Gymraeg mewn rhai llefydd penodol.
Does dim pwynt gofyn am bethau amhosibl, ond yn y sefydliadau "Prydeinig" (megis yr amgueddfeydd, orielau, adeiladau'r llywodraeth ac ati) lle mae Cymru i fod i gael ei chynrychioli, rwy'n credu'n gryf y dylid defnyddio'r iaith mewn o leiaf rhai mannau.
Ac nid yr iaith yn unig sydd ei hangen, chwaith, ond presenoldeb pethau Cymreig yn gyffredinol. Os ewch chi i nifer o'r amgueddfeydd etc. prin y cewch ddeall fod Cymru'n rhan o'r ynys.
Sawl portread o Gymry sydd yn yr Oriel Portreadau Cenedlaethol? A faint o sôn am achau Cymreig y Tuduriaid sydd yn yr wybodaeth teuluol o dan eu portreadau nhwythau? Faint o gyfeirio at Gymry fu farw yn y Tw^r sydd? Pa sôn sydd am ben Llywelyn yn cael ei roi ar y wal, yng nghanol yr holl ddeunydd 'deongliadol'?
(Ac yng Nghaeredin, hefyd - pa sôn am Aneirin a Chatraeth sydd ger y castell yn fan'na?).
Eto, mae cenedlaethau wedi cael eu geni a magu yng Nghymru heb sylweddoli bod Cymreictod yn bodoli... dew, mae'r dasg yn un fawr, gyfeillion!