Rol 'Gwas cigydd' McGuiness ar Ddydd Sul gwaedlyd.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 3:28 pm

Aled a ddywedodd:Sail yr ymchwiliad ydi pam y bu i'r Paras saethu'n farw 14 o bobl ddi-niwed, heb yr un arf rhynddynt, nifer ohonyn nhw wedi'w cornelu a methu symyd i unlle, nid yn garej pwy oedd gynne'r IRA y dydd hwnnw.
Hyd yn oed, hyd yn oed petai rywyn wedi saethu at y milwyr (a mewn rhyfel, dyma'r drefn ynte?), nid y rhai a fu farw wnaeth, felly pam gaethon nhw ei saethu? Dyne'r unig gwestiwn sydd.

Yntau, os profir i McGuinnes saethu gynta, ydi hynny'n cyfiawnhau unrhyw Gatholig di-arfog o fewn golwg, gan gynnwys plant?


Nac ydi.

serch hynny, os y bu i'r IRA danio'n gyntaf a oes posibilrwydd 'mewn rhyfel' fod unigolion yn panicio ac yn gwneud cangymeriad? Jyst gofyn.

Ac os oedd Gogledd Iwerddon yn sefyllfa o ryfel (dim bod fi'n derbyn hynny) yna edrycha ar sefyllfaoedd 'rhyfel' yn gyffredinnol - mae'r diniwed yn dioddef mewn cross fire. Felly mae'r cwestiwn ' a saethodd yr IRA at y Paras' yn allweddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Mr Gasyth » Iau 06 Tach 2003 4:10 pm

Cytuno Boris, mae o'n gwestiwn pwysig ond hyd yn oed os saethodd yr IRA gynta dydi o ddim yn egluro popeth. Ydi ma damweinie yn digwydd mewn rhyfel, ond ma ne wahaniaeth rhwng cael eich dal mews cross-fire a chael eich targedu yn fwriadol am eich bod chi, yn nhyb y fyddin, ar yr un ochr a'r gelyn.

Os oedd hi'n frwydr mor ffyrnig a hynne sut na chafodd yr un milwr ei frifo na'i anafu?
Sut nad oes yna dystiolaeth 'goncrit' fod yr IRA yn saethu hefyd (eg bwledi, magazines gwag)?
A sut lwyddodd un o unedau mwya soffistigedig a galluog un o fyddinoedd mwya soffistigedig a galluog y byd i ladd 14 person di-niwed ond eto yr un o aelodau'r IRA.

Ar y gorau, mi daniwyd shot gan yr IRA a mi ath y Paras yn nuts gan saethu unrhywun o fewn golwg. Ar y gwaethaf, mi ath y Paras yn nuts a saethu unrhywun o fewn golwg.

Dim lot o wahaniaeth yn y pen draw nagdi?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Boris » Iau 06 Tach 2003 5:46 pm

Aled a ddywedodd:Dim lot o wahaniaeth yn y pen draw nagdi?


Ydi yn anffodus.

Mae popeth ti'n ddeud yn wir - dyna pam dwi'n cefnogi yr ymchwiliad ac hefyd yn credu mae 'whitewash' oedd y cyntaf. Ond dwi dal o'r farn fod y posibilrwydd fod yr IRA wedi tanio ar y paras yn bwnc sydd yn haeddu sylw ac atebion.

Wedi'r cyfan, mae 'Bloody Sunday' wedi dod yn rhan o 'victim culture' y mudiad gwerinaethol ac os gwir y cyhuddiad mae'r IRA oedd yn rhannol gyfrifol am y gyflafan yna mae hyn yn gwneud gwahaniaeth. Mae gweld M McG - sef pwynt cyntaf yr edefyn hwn dwi'n meddwl - yn gwrthod tystiolaeth i ymchwiliad y bu Sien Fein mor frwd dros ei sefydlu, yn codi cwestiynnau. Mae'n anodd gwadu hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan pogon_szczec » Gwe 07 Tach 2003 1:11 pm

Aled a ddywedodd:Sut nad oes yna dystiolaeth 'goncrit' fod yr IRA yn saethu hefyd


Ti wedi gweud 'os' a 'hyd yn oed' sawl gwaith.

Mae dau aelod yr IRA wedi cyfaddef o flaen y llys eu bod wedi saethu at filwyr y diwrnod hwnnw.

Os nad yw tystiolaeth esgob yn ddigon da i ti fyddi di'n derbyn gair dy arwyr?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan pogon_szczec » Gwe 07 Tach 2003 1:26 pm

Aled a ddywedodd:
pogon a ddywedodd:
pogon a ddywedodd:Os taw rhyfel oedd e pam nad oedd yr IRA yn dilyn y Geneva Convention?

Fyddai'r fyddin Brydeinig wedi herwgipio, arteithio ac yna llofruddio Jean McConville, mam i ddeg er enghraifft?


Wyt ti wedi clywed am internment? Wyt ti wedi clywed am y cannoedd o Gatholigion a garcharwyd ac a arteithwyd gan fyddin Prydain heb unrhyw achos heblaw eu bod yn Gatholigion?


Aled pam nad wyt ti'n ateb y cwestiwn am Jean McConville?

Wrth gwrs dwi di clywed am internment. Cafodd arweinydd Sinn Fein/IRA ei garcharu. (Yn anffodus), dal i fyw o hyd mae e.

Dwi heb glywed o unrhyw aelod y fyddin Brydeinig yn ysgrifennu hunangofiant ar ol cael ei garcharu gan yr IRA am fod yr IRA yn llofruddio eu carchorion.

O ran Pabyddion diniwed yn cael eu lladd, mae'r IRA wedi lladd mwy o Babyddion na'r fyddin Brydeinig.

Bydde yn syniad da i ti astudio gwefan CAIN i ddod o hyd i'r ffigwrau cywir.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 07 Tach 2003 3:02 pm

Aled pam nad wyt ti'n ateb y cwestiwn am Jean McConville?


Achos nad ydw i'n gwbod dim byd am yr achos yma, a dwi'm yn un sy'n tueddu i fynd ymlaen ac ymlaen am bethau dwi'n gwbod dim amdanynt. Yr un ffordd a dwi, na neb arall yn famma yn gwbod be ddigwyddodd ar Bloody Sunday achos doedden ni ddim yno. Y cwbl fedrwn ni neud ydi rhoi barn.

A'r farn sylfaenol dwi'n trio roi drosodd ydi, dio'm rili bwys pwy saethodd gynta, achos mi nath y Paras dal ladd y bobl rong a hynny, os nad yn fwriadol wel o leiaf 'accidentally on purpose'. Tase nhw di lladd 14 aelod o'r IRA faswn i ddim yn eu barnu nhw o gwbl achos dyna sy'n digwydd mewn rhyfel, ond naethon nhw ddim naddo. Naethon nhw ladd merched a phlant.

Wan anghofia am Jean McCoville Pogon, does ganddi'm byd i neud efo Bloody Sunday. Agor edefyn arall amdani os tisho a gei di siarad efo ti dy hun mor hir a tisho.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan pogon_szczec » Gwe 07 Tach 2003 4:26 pm

[quote="Aled]

Achos nad ydw i'n gwbod dim byd am yr achos yma, a dwi'm yn un sy'n tueddu i fynd ymlaen ac ymlaen am bethau dwi'n gwbod dim amdanynt. Yr un ffordd a dwi, na neb arall yn famma yn gwbod be ddigwyddodd ar Bloody Sunday achos doedden ni ddim yno. Y cwbl fedrwn ni neud ydi rhoi barn.


Pam son am y peth o gwbl felly? Ti'n derbyn tystiolaeth y llofruddiwr McGuiness yn ddi-gwestiwn ac yn amau tystiolaeth esgob er nad o't ti yn bresennol. Mae digon o dystiolaeth ar y we os wyt ti'n edrych amdano. Os yw dau aelod yr IRA wedi dweud wrth y llys eu bod wedi saethu at filwyr byddwn i'n derbyn eu tystiolaeth. Pam fydden nhw'n dweud celwyddau yn erbyn eu hunain?

A'r farn sylfaenol dwi'n trio roi drosodd ydi, dio'm rili bwys pwy saethodd gynta, achos mi nath y Paras dal ladd y bobl rong a hynny, os nad yn fwriadol wel o leiaf 'accidentally on purpose'. Tase nhw di lladd 14 aelod o'r IRA faswn i ddim yn eu barnu nhw o gwbl achos dyna sy'n digwydd mewn rhyfel, ond naethon nhw ddim naddo. Naethon nhw ladd merched a phlant.


Drycha di ar restr Cardi o'r rhai a gafodd eu lladd. Sai'n gweld enw merch yn eu plith. Dwim yn meddwl bod plentyn wedi'i ladd chwaith.

A ddylai'r Paras fod wedi gofyn i aelodau IRA sefyll lan er mwyn gwybod at bwy ddylent fod wedi saethu?

Wan anghofia am Jean McCoville Pogon, does ganddi'm byd i neud efo Bloody Sunday. Agor edefyn arall amdani os tisho a gei di siarad efo ti dy hun mor hir a tisho.


Wrth gwrs anghofia am Jean McConville. Dim yn 'sexy' oedd ei marwolaeth hi. Na'r dwy fil a gafodd ei lladd gan yr IRA, pedair gwaith yn fwy na chafodd eu lladd gan yr ochr Prydeinig.

Mae'n berthnasol am dy fod yn cyfeirio at griw o lofruddwyr a seicopaths fel byddin. Tase'r IRA yn fyddin go iawn bydden nhw'n dilyn rheolau yn hytrach na herwgipio, arteithio a llofruddio menyw cwbl ddiniwed. Ac yn wahanol i Sul gwaedlyd llofruddiaeth mewn gwaed oer oedd e.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Boris » Mer 12 Tach 2003 3:07 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Chris Castle a ddywedodd:Cofia rwpeth arall. Os mae McGuinness yn ateb y cwestiynnau bydd pawb yn gwbod Lle mae aelodau/caefnogwyr yr IRA ar y dydd mewn cwestiwn yn byw.

Mae Paras yn aros yn di-enw.


Pwynt da Chris.

Mae'r Paras yn cael aros yn anonimys drwy'r holl ymchwiliad. yr unig beth mae McGuinness yn gwrthod ddweud yw lle y cuddiodd e holl arfau'r IRA yn Derry tra'n 'second-in-command' (nid arweinydd, fel yr honnodd Pogon ynghynt).

Byddai datgelu hyn yn datgelu enwau conffidants iddo, ac yn bradychu eu ffydd.



Oeddwn i o'r farn fod hyn yn anghywir ond (yn wahanol i lawer o fewn maes e heb ffeithiau gwell oedd aros yn dawel). Fodd bynnga, Y Guardian heddiw (ydw, dwi'n darllen rhacsyn y chwith weithiau!);

"An IRA witness was in a stable condition last night after collapsing while giving evidence to the Bloody Sunday inquiry. Identified as Official IRA Man Four, and an adjutant in 1972, he told the enquiry: "The Brits were gunning down innocent civilians. I took my short weapon [pistol] out of my pocket and fired two, possible three shots"

Dau bwynt,

1. Dim jyst y Paras sy'n cael cynnig tystiolaeth yn ddi-enw

2. Mae'r IRA yn cyfaddef saethu tuag at y Paras.

Cyfiawnhau y gyflafan? Nac ydi siwr.

Egluro y gyflafan? Nac ydi, fe fu i'r Paras or ymateb.

Cyfraniad pwysig at ddeall beth ddigwyddodd? Ydi, ac mae hefyd yn dangos eto y dirmyg llwyr sydd gan M McG tuag at y rhai a laddwyd. Os am fynd i wraidd y mater pam ddim ateb y cwestiynnau. tydi'r hawl i aros yn ddi-enw ddim yn egluro penderfyniad M McG - efallai fod cydwybod euog yn agosach at y gwir.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Mer 12 Tach 2003 3:49 pm

Credaf mai'r pwynt pwysicaf i gwestiwn yr edyfen yma yw:
Pa gwestiynau mae McGuinness yn gwrthod eu hateb?

Os, fel awgrymir gan rai, mai cwestiwn o lle bu'r IRA yn cadw gynnau ac arfau eraill yn y ddinas - wel, allai'm deall pam fod agen iddo ateb y cwestiwn.
Nid yw'n berthnasol i'r achos o bwy daniodd y gwn cyntaf nag am pa reswm bu i 14 o bobl golli eu bywydau.

Os yw McGuinness yn gwrthod ateb cwestiynau fel "Oedd yr IRA yn bwriadu saethu ar y milwyr yn ystod y brotest" neu "Oedd McGuinness wedi saethu at filwr" - wel mae hynny'n wahanol.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan nicdafis » Mer 12 Tach 2003 5:11 pm

Boris a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Beth fyddai dy agwedd tuag at aelod o'r Paras yn gwrthod ateb cwestiynnau? Gwahanol iawn fe dybiwn.


Yr un peth. Pam wyt ti'n cymryd y byddwn i'n rhoi hawliau sifil i aelod un fyddin ac nid i aelod byddin arall? :?


Felly fe fyddet yn fodlon cachu ar ben y teuluoedd hynny sydd, 30 blynedd yn ddiweddarach yn gofyn am atebion er mwyn cael rhoi pen ar y mater.


Byddwn, wrth gwrs. Da iawn ti am sboto hynny. Dyna fyddai fy unig amcan wrth drial sicrhau bod pob dinasyddion y Deyrnas Unedig yn mwynhau'r un hawliau sifil.

Ble ydw i wedi dweud mod i'n cefnogwr Sinn Fein? Ble ydw i wedi dweud bod Martin McGuinness yn ddyn di-fai? Am wn i, dw i ddim wedi cynnig unrhyw farn ar bwy oedd ar fai am ddigwyddiadau y Sul Gwaedlyd, jyst dweud ydw i bod hawliau sifil yn uwchben gwleidyddiaeth. Os dych chi'n dweud nad oes hawl 'da McGuinness i beidio ateb cwestiynau, neu'n awgrymu bod gwrthod ateb bob cwestiwn yn profi bod ganddo rywbeth i'w cyddio, dych chi ar y ffordd i danseilio ein holl gyfundrefn o gyfiawnder.

Hoffi fe neu beidio, dyn ni i gyd yma yn byw dan yr un wladwriaeth â Martin McGuinness (iawn, nid ti pogon, cei di fynd yn ôl at dy ewynnu). Os ydy e'n colli ei hawliau sifil, dyn ni i gyd yn eu colli.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron