Fel chi'n gweld mae calendr wedi cael ei ychwanegu i'r maes. Er mwyn ychwanegu manylion eich gig neu ddigwyddiad i'r calendr, ewch i'r adran perthnasol ( neu ) dechreuwch edefyn newydd yn yr un modd ag arfer, ac yna ar waelod yr edefyn, dewiswch y tab 'Digwyddiad Calendr:' pwyswch ar y bwtwm dewisydd dyddiad (llun bach o galendr), dewiswch y Dyddiad ac yna pwyswch 'Anfon' Bydd yr edefyn yn cael ei greu yn yr un modd ag arfer, a bydd dolen at y r edefyn wedi'i gynnwys yn y calendr ar y dyddiad cywir.
Ar hyn o bryd mae calendr bach yn ymddangos ar yr hafanddalen ar yr ochr chwith, ac hefyd mae dolen at y dudalen Calendr yn y bar opsiynnau islaw'r blwch chwilio ar frig pob tudalen. Dolen uniongyrchol i'r calendr yma - mycalendar3.php
Bydd mwy o wybodaeth yn yr adran FAQ Nodweddion Newydd newydd.php yn fuan.
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i Duw am ei waith.