Fel chi'n gweld mae calendr wedi cael ei ychwanegu i'r maes. Er mwyn ychwanegu manylion eich gig neu ddigwyddiad i'r calendr, ewch i'r adran perthnasol (Gigs neu Digwyddiadau) dechreuwch edefyn newydd yn yr un modd ag arfer, ac yna ar waelod yr edefyn, dewiswch y tab 'Digwyddiad Calendr:' pwyswch ar y bwtwm dewisydd dyddiad (llun bach o galendr), dewiswch y Dyddiad ac yna pwyswch 'Anfon' Bydd yr edefyn yn cael ei greu yn yr un modd ag arfer, a bydd dolen at y r edefyn wedi'i gynnwys yn y calendr ar y dyddiad cywir.
Ar hyn o bryd mae calendr bach yn ymddangos ar yr hafanddalen ar yr ochr chwith, ac hefyd mae dolen at y dudalen Calendr yn y bar opsiynnau islaw'r blwch chwilio ar frig pob tudalen. Dolen uniongyrchol i'r calendr yma - mycalendar3.php
Bydd mwy o wybodaeth yn yr adran FAQ Nodweddion Newydd newydd.php yn fuan.
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i Duw am ei waith.