Gwefannau ddwyieithog

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Llywarch » Maw 10 Maw 2009 2:53 pm

P'nawn da bawb. Oes modd cael eich cyngor?

Mae frind i mi :winc: yn gweithio i fudiad/elusen or enw http://www.sustrans.org.uk/. Mae'r mudiad, ar ôl ychydig o "arm twisting" wedi cytuno i greu wefanau yn ddwyieithog :

http://www.bikebelles.org.uk/

http://routes2ride.org.uk/cymraeg/

Yr unig pryder sydd gan 'y frind' yw, ni fydd ddigon o bobol yn darllen/ymweld â'r tudalennau Cymraeg. Oes rhiwun ar maes-e gyda profiad o hybu wefannau Cymraeg neu a phrofiad o berswadio'r pobol, ar gall i ddarllen yn Cymraeg, ddefnyddio wefannau Cymraeg?

Diolch am eith cymorth, bydd 'fy frind' yn ddiolchgar iawn :D
Rhithffurf defnyddiwr
Llywarch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Llun 21 Ion 2008 5:03 pm
Lleoliad: Caerdyf

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 10 Maw 2009 3:43 pm

Un peth o be dwi'n ddallt sy'n helpu ydi cael rhyw fath o dudalen flaen gwbl ddwyieithog (ychydig fel tudalen flaen gwefan Plaid Cymru neu Fwrdd yr Iaith Gymraeg) sy'n rhoi dewis i bobl p'un a ydynt am ddarllen yn Gymraeg neu Saesneg o'r cychwyn cyntaf, gan wedyn arwain at wefan yr iaith ddewis. Mae hefyd yn fodd i arddangos pa fath o Gymraeg sydd ar weddill y wefan felly mae'n syniad dangos yn y fan honno ei bod yn syml (ond gan gofio sicrhau ei bod yn gywir!!).

Os nad ydi hynny'n bosibl mae'n syniad gwneud y botymau Cymraeg ar y dudalen Saesneg yn ddigon amlwg - mae un Bike Belles er enghraifft yn ddigon anodd gweld.

Dwi'n meddwl hefyd ei fod yn gwneud gwahaniaeth rhoi draig goch wrth y dewis Cymraeg gan ei fod yn dal llygad y darllennydd - bosib iawn mae'n hybu pobl sy'n siarad Cymraeg i'w ddefnyddio os yw'r Saesneg yn cael ei chynrychioli gan faner yr Undeb neu faner Lloegr, er bod gan rai pobl broblem efo hynny o be dwi'n ddallt. Sgen i ddim.

O feddwl efallai y byddai'n synaid cysylltu gyda Bwrdd yr Iaith neu sefydliad tebyg i holi?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Llywarch » Maw 10 Maw 2009 4:18 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Os nad ydi hynny'n bosibl mae'n syniad gwneud y botymau Cymraeg ar y dudalen Saesneg yn ddigon amlwg - mae un Bike Belles er enghraifft yn ddigon anodd gweld.


Cytuno'n llwyr. Gai air a'r 'swynwr wefan'.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'n meddwl hefyd ei fod yn gwneud gwahaniaeth rhoi draig goch wrth y dewis Cymraeg gan ei fod yn dal llygad y darllennydd - bosib iawn mae'n hybu pobl sy'n siarad Cymraeg i'w ddefnyddio os yw'r Saesneg yn cael ei chynrychioli gan faner yr Undeb neu faner Lloegr, er bod gan rai pobl broblem efo hynny o be dwi'n ddallt. Sgen i ddim.


Yr unig broblem yw bo tair o'r siaradwyr Cymraeg (ail-iaith) yn y swyddfa yn ddi-Gymraeg, felly maer holl fflagiau a banneri yn eistedd yn anghyfforddus gyda ni.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:O feddwl efallai y byddai'n synaid cysylltu gyda Bwrdd yr Iaith neu sefydliad tebyg i holi?


Syniad gwych!

Diolch o galon am dy help.
Rhithffurf defnyddiwr
Llywarch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Llun 21 Ion 2008 5:03 pm
Lleoliad: Caerdyf

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Kantorowicz » Maw 10 Maw 2009 5:51 pm

cytuno'n llwyr - rhaid cael tudalen flaen sy'n rhoi'r dewis, ac yna sicrhau fod defnyddwyr yn gallu newid yn o^l ac ymlaen yn rhwydd.

Enghraifft da iawn arall yw gwefan y Llyfrgell Genedlaethol, http://www.llgc.org.uk/.

Enghraifft gwael ydy gwefannau'r BBC, lle ystyrir y tudalennau Cymraeg yn rhyw fath o fyd ar wahan, fel arfer. Does dim croes-gyfeirio rhwng straeon newyddion Saesneg a Chymraeg, a dim ond y mymryn lleiaf o wybodaeth ar y tudalennau Saesneg i awgrymu bodolaeth y Gymraeg (a hynny reit ar waelod y tudalen, yn hollol ddi-arffordd: http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wales/default.stm. Does dim gair am y Gymraeg ar unrhyw brif-ddewislen (er fod tudalen flaen oll gwefan y BBC yn brolio'r "32 languages" y mae'r World Service ar gael ynddynt: http://www.bbc.co.uk/worldservice/languages/).

Ar drywydd arall, wrth cwyno am y BBC: mae'r gwasanaeth 'cenedlaethol' Cymraeg (a'r un Cymreig 'fyd) yn cael llai o sylw hyd yn oed na'r gwasanaeth i bobl o dras Asiaidd (am fod mwy ohonynt, sbo).
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Duw » Maw 10 Maw 2009 5:55 pm

Wedi creu gwefannau uniaith Gymraeg a Dwyieithog, mae'n rhaid rhoi dewis iaith yn GLIR ar wefannau dwyieithog (fel a soniwyd eisoes). Hefyd bydd angen osgoi baneri iaith - cefais fy meiriandu'n hallt iawn am y defnydd hwn yn y gorffennol. Os o'n i'n Gymro di-Gymraeg, bydde gorfod pwyso baner Lloegr/TU yn fy ngwylltio a phosib fy nhroi bant o ymweld â'r safle'n gyfan gwbl. Mae'r 'dudalen lanio' yn syniad gwych, lle bo iaith yn cael ei ddewis reit o'r cychwyn. Gall dewis iaith person gael ei gadw fel cwci wedyn, gan osgoi'r angen i fynd at y dudalen lanio eto. Wrth gwrs bydde angen rhyw ffordd o newid iaith ar bob tudalen.

Parthed yr iaith ei hun - bydd y gynulleidfa'n rheoli'r safon. Yn gyffredinol, dwi'n tueddu osgoi cynnwys y ffurf amhersonol lle bo modd a defnyddio geiriau syml. Os ydw i'n gorfod eu hedrych lan mewn geiriadur, hoffwn feddwl bydde nifer fawr o siaradwyr Cymraeg eraill yn gorfod ei wneud hefyd - felly KISS (keep it simple stupid!)

Mae termau technegol hefyd yn gallu achosi problem. Dydy mwyafrif o'r cyhoedd ddim yn dod ar draws llawer o eiriau technegol yn eu trafodaethau pob dydd, felly posib bydd angen eu cyflwyno gyda rhyw fath o rollover i roi tooltip gyda'r gair Saesneg (fel mae tagiau HTML 'abbr' ac 'acronym' yn gwneud).

Yn bennaf, dylai'r iaith fod yn gywir - er bod rhai'n mynnu bod rhyw Gymraeg yn well na dim Cymraeg, hoffwn anghytuno. Gall iaith wallus arwain at golled hyder yn yr elusen ac addysgu gwallau i ddysgwyr a phlant (a siaradwyr aeddfed!)

Os ydy'r cynnwys yn mynd i fod o ddiddordeb i ysgolion, pam nid cysylltu ag ysgolion Cymraeg eu cyfrwng er mwyn hybu'r defnydd? E.e. hala 'flyer' i bob adran addysg grefyddol neu addysg gorfforol (beth bynnag yw'r targed).

Rydym (dwi'n athro ger llaw) pob amser yn edrych mas am adnoddau addysgu arlein o safon. Gei di weld y 'hits' yn cynyddu ar GoogleAnalytics wedyn wrth fod dosbarthiadau cyfan yn ymweld â'r wefan!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Rhys » Maw 10 Maw 2009 10:37 pm

Y da
Mae gan y ddwy wefan RSS feeds ar wahan ar gyfer eu cynnwys Cymraeg (er tydi un Routes2Ride dim yn gweithio'n iawn)
Felly gallet ofyn i Aran, sy'n rhedeg Blogiadur.com eu gynnwys yno. Beth mae hyn yn olygu ydy, pob tro bydd stori/digwyddiad newydd yn ymddanos ar y gwefannau uchod, byddant hefyd yn ymddangos ar Blogiadur (sy'n wedi bod yn llwyddo denu boron i 500 o ymwelwyr pob dydd - mae'r BBC a rhaglenni fel Wedi 7 yn cael rhai o'u sotris o fan hyn)

Y drwg
Dw i'n defnyddio porwr Firefox ac wedi gosod fy newisiadau i ddweud me tudalennau Cymraeg sydd orau gyda fi, a bod Saesneg yn Ok os does dim Cymraeg ar gael.
Doedd y ddwy wefan uchod ddim yn cydnabod hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan 7ennyn » Mer 11 Maw 2009 7:53 pm

Rhys a ddywedodd:Y drwg
Dw i'n defnyddio porwr Firefox ac wedi gosod fy newisiadau i ddweud me tudalennau Cymraeg sydd orau gyda fi, a bod Saesneg yn Ok os does dim Cymraeg ar gael.
Doedd y ddwy wefan uchod ddim yn cydnabod hyn.

Dyna ydi'r ffordd safonol o fynd o'i chwmpas hi yn ol W3C, ond yn achos y Gymraeg mae'r ffordd safonol yn gwbwl anaddas. Yn y dystopia yr ydan ni'n byw ynddi dim ond tua <1% o siaradwyr Cymraeg sydd yn ymwybodol bod posib gwneud hyn a bydd y >99% arall yn cael eu cyfeirio i'r fersiwn Saesneg yn ddiofyn.

Tudalen flaen hefo dewis clir a chadw'r dewis mewn cwci ydi'r unig ffordd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Duw » Mer 11 Maw 2009 8:26 pm

7ennyn a ddywedodd:Tudalen flaen hefo dewis clir a chadw'r dewis mewn cwci ydi'r unig ffordd.


Cytuno'n gryf - mae'r rhan fwyaf o Gymru Cymraeg (dwi'n meddwl) dal yn defnyddio FF/IE ac ati yn y Saesneg - felly ni fydd y wefan yn pigo lan eu bod yn siarad Cymraeg - nid ydynt yn seicig!

Tudalen lanio fel a awgrymais gynt sy dim ond yn ymddangos mewn absenoldeb cwci. Os ydych am law gyda'r codio ar gyfer hwn, rho showt - dim ond rhyw 10 munud i'w greu.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Llywarch » Gwe 13 Maw 2009 3:05 pm

Duw a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Tudalen flaen hefo dewis clir a chadw'r dewis mewn cwci ydi'r unig ffordd.


Cytuno'n gryf - mae'r rhan fwyaf o Gymru Cymraeg (dwi'n meddwl) dal yn defnyddio FF/IE ac ati yn y Saesneg - felly ni fydd y wefan yn pigo lan eu bod yn siarad Cymraeg - nid ydynt yn seicig!


Diolch o galon am eich ymatebion bobol!

'Rwyf am gael sgwrs gyda'r wefan meister ynglyn â'r dudalen lanio. Dwi'n siwr bo fi di awgrymu hyn yn barod, ond roedd rhyw rheswm yn erbyn rhoi tudalen lanio???

Duw a ddywedodd:Tudalen lanio fel a awgrymais gynt sy dim ond yn ymddangos mewn absenoldeb cwci. Os ydych am law gyda'r codio ar gyfer hwn, rho showt - dim ond rhyw 10 munud i'w greu.


Mae bosib nai i cysylltu a chdi ynglyn â hyn.

Diolch :D
Rhithffurf defnyddiwr
Llywarch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Llun 21 Ion 2008 5:03 pm
Lleoliad: Caerdyf

Re: Gwefannau ddwyieithog

Postiogan Duw » Sad 14 Maw 2009 12:04 am

Croeso - os wyt am cwpwl o tips cer draw i'm wefan: wetwork. Stim byd earth-shattering yna - ond cwpwl o syniadau ar sut i sefydlu gwefannau dwyieithog DIY. Posib bydde Joomla (gyda Joomfish) yn opsiwn gwell (cysyllta gyda Jac Glan-y-Gors - mae'n dipyn o arbenigwr ar hwn).
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai