Yn yr achos yma mae'n ymddangos yn gymharol rwydd, am taw siarad â chwsmer ydych chi. Cewch ddweud wrth eich bos taw'r cwsmer sy'n dewis siarad Cymraeg am ba bynnag reswm ac na hoffech chi geisio mynnu ei b/fod yn newid iaith rhag ofn y bydd yn troi ei g/chefn ar y cwmni.
Mae'n bosibl y gall trafodaeth ddiddorol ddeillio o hyn, ac os trafodwch chi'n gall gyda'ch bos, efallai y caiff ddysgu rhywbeth pwysig am Gymru. Oes na Gymro neu Gymraes (neu Sais deallus) yn uwch i fyny yn y cwmni y gallet ti fynd ato/i i gael cyngor (fel y dywedodd Llefenni)?
Da iawn, wir, am gadw'r iaith yn hyglyw.
Eto, rhaid imi ddweud nad ydw i'n cytuno gyda'ch awgrym taw'r dewis gorau bob tro yw i fod yn "gwrtais" a throi at y Saesneg pan fydd rhywun di-Gymraeg o gwmpas. (os deallaf yn gywir y darn a ddyfynnaf yma):
Mae digon o synnwyr gen i ac yn digon cwrtais i siarad Saesneg os mae saes yn yr un ystafell efo siaradwyr Cymraeg
Y Cymry'n troi yn rhy gyflym at y Saesneg ydy un o'r ffactorau (os nad y brif ffactor) fydd yn sicrhau tranc yr iaith. I ddefnyddio'r gymhariaeth Eidalaidd unwaith eto - mae'n annhebyg y byddai criw o frodorion yn Rhufain yn troi mor glou at iaith arall. Mae angen magu cymdeithas *ddwyieithog* yng Nghymru, lle na fydd y Saesneg yn gorfod cael blaenoriaeth o gwbl.
... a bydd newid barn eich bos yn gam pwysig ymlaen!
Pob lwc!