Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Lorn, rwyt ti'n swnio fel hen Dori gwrth-Aeleg i finnau! Ac yn ceisio codi bai ar y chwith wleidyddol yn lle'r dde. Fel dywedodd duw, nid mater o fod yn chwith na'n dde yw bod dros neu'n erbyn yr Aeleg. A chan mod innau'n byw yn y Frenhiniaeth (Fife), dwi ddim yn cyfarfod yn aml a phobl Glasgau. A deud y gwir, dim ond un person gwrth-Aeleg mod i wedi dod o hyd iddyn nhw yma yn Fife - a hithau'n gefnogydd o'r Toriaid ac yn medru Gaeleg ei hun!
Rwanta, beth am beidio dadlau am bwy, neu am faint o bobl, sy wrth-Aeleg yma ac yn lle hynny gyrru cwyn at Stewart Stevenson er mwyn brysio codiad arwyddion dwyieithog.
Sioni, am be ddiawl ti'n mwydro dwed? Tori gwrth Gaeleg? Ar ba sail wyt ti'n dweud hynny? Ydw i'n wrth Gaeleg? Ffyc, nachdw, dwi'n hollol gefnogol. Ydw i'n Dori? Nachdw. Dwi digwydd bod yn cytuno hefo 'Duw' nad mater rhwng dde a chwith ydy'r iaith (er bod traddodiad digon elyniaethus o fewn yr asgell chwith yma yng Nghymru tuag at yr iaith a nid yw'r Alban yn wahanol o ran hynny), tynnu sylw oeddwn i nad oedd o'n fater o Rangers = yn erbyn yr iaith a'r Tic = o blaid yr iaith. Mae Gorgeous George a Champagne Sheridan yn ddau amlwg sy'n profi hyn yn ogystal a John Reid - 3 sy'n gartrefol iawn yn Celtic Park a 3 sy'n elyniaethus iawn i'r iath Gaele y wasg. Ydy'n nhw'n Doriaid? Nachdyn.
Gwell weithiau Sioni i ti feddwl am be ti'n ddeud!
A siawns dy fod a llygaid digon agored i wybod nad wyt ti angen mynd i Glasgow i weld cefnogwyr Rangers (neu Celtic) - mae ne ddigon ohonyn nhw yn Fife a pob man arall!
(a gyda'r llaw dwi wedi anfon cwyn at Mr Stevenson ers sawl diwrnod a wedi hen dderbyn ymateb diolch)