Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 04 Chw 2009 11:15 pm

Draw ar flog Metastwnsh.

Dim dyddiad lansio, sydd ddim yn syndod o gofio'r sŵn whoosh wnaeth dyddiad Y Byd wrth fynd heibio, ond digon o ditbits i gadw ni fynd tan hynny.

Hwyl

Rhods
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 05 Chw 2009 12:09 am

Diolch yn fawr am hwn. Diddorol iawn, iawn. Disgwyl 'mlaen i'r lansio nawr 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 13 Maw 2009 10:58 am

Si ar led mai canol Ebrill fydd hi.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 17 Maw 2009 12:31 pm

Tybed pa mor brysur/poblogaidd fydd y fforwm drafod ar y wefan? Os na ellir cyrraedd ffigwr o 80+ ar-lein yr un pryd (a hynny yn eitha aml)ar ol tri mis yna dylid dechrau gofyn ambell i gwestiwn caled a phigog.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 17 Maw 2009 1:19 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Tybed pa mor brysur/poblogaidd fydd y fforwm drafod ar y wefan? Os na ellir cyrraedd ffigwr o 80+ ar-lein yr un pryd (a hynny yn eitha aml)ar ol tri mis yna dylid dechrau gofyn ambell i gwestiwn caled a phigog.


Rho gyfle iddyn nhw lansio ei gwefan gyntaf! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 17 Maw 2009 2:18 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Tybed pa mor brysur/poblogaidd fydd y fforwm drafod ar y wefan? Os na ellir cyrraedd ffigwr o 80+ ar-lein yr un pryd (a hynny yn eitha aml)ar ol tri mis yna dylid dechrau gofyn ambell i gwestiwn caled a phigog.

Dwi'n amau bydd ganddyn nhw fforwm drafod beth bynnag. A dwi'n gobeithio na fydd ganddyn nhw. Distraction fydda hynny.

Mwy o newyddiaduraeth Gymraeg o safon dwisio'i weld nid blwch tywod arall. Be ddiawl di'r otsh am 'nifer ar-lein' dio'n golygu dim byd o gwbl.

Ti'n hollol obsesd Wylit. Mae sgyrsiau Cymraeg ar y we wedi mynd yn wasgaredig - dros blogs, twitter, Facebook, Youtube, a'r torreth gwefannau eraill gyda elfen gymdeithasol - ac mae hynny'n beth da. Alli di ddim rhoi hynny nôl yn y bocs. Mae o ond yn mynd i gynyddu, gyda phob math o wefannau rwan yn cynnig blwch i roi sylwadau neu drafod.

Erbyn hyn da ni angen rhywle i'n cyfeirio ni at y sgyrsiau hyn. I'n cyfeirio at y cynnwys da a rhoi lle i'w drafod. Os gall Golwg wneud hynny, ochr yn ochr a bod yn bapur ar-lein, yna bydda i'n ddigon hapus. Ond dwi ddim yn disgwyl iddyn nhw, achos newyddiaduraeth ddyla fod eu prif amcan.

Fasa fforwm arall yn dda i ddim i unrhywun, ac yn fy marn i fasa'n gam mawr yn ôl.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Cyfweliad am wefan 'Golwg ar y We'

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 19 Maw 2009 12:56 pm

"Distraction"? Mae gen ti weledigaeth anuchelgeisiol. Dyma un ffordd amlwg o greu cysylltiad cryf rhwng y wefan a'r darllenwr h.y. engagement.
Dwi'n son yn fan hyn am fforwm drafod bywiog-heb waedu e.e. maes-e yn ormodol. Fforwm fydd yn farus o ran lefel prysurdeb- ond heb, at ei gilydd, wneud niwed i'r rhithfro Gymraeg. Perswadio mwy sy'n gallu sgwennu yn Gymraeg i ddewis Cymraeg yn lle Saesneg ar y we...
Mae gan dim Golwg ar-lein "bwer" o ran adnoddau, marchnata, hysbysebu- tydi 80+ ar-lein yr un pryd ddim yn darged anghyraeddadwy. Mae'n hollol, hollol realistig. Jesd mynd amdana fo, arbrofi, adolygu'r sefyllfa ar ol tri mis...
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron