Hwyaid a Ieir?

Ardal i drafod a phostio lluniau o anifeiliaid anwes neu wyllt.

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Ardal i drafod a phostio lluniau o anifeiliaid anwes neu wyllt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hwyaid a Ieir?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 17 Maw 2009 5:38 pm

Ddim yn siwr lle i roi hwn :?

Oes aelod arall o'r maes yn cadw hwyaid neu ieir? Mae gyda ni 5 hwyaden a 7 iâr. Pan wnaethom ni brynu'r tyddyn bach, fe wnaeth y perchnogion blaenorol adael rhain ar eu hôl!

Ma'r ieir wedi bod yn dodwy lot yn ddiweddar. Dros y Gaeaf, dim ond un wy bob cwpwl o ddwrnode oedden ni'n cael, ond ddoe getho ni 5 wy mewn diwrnod. 8)

Bues i'n adeiladu pwll bach yn fwy o faint i'r hwyaid dros y penwythnos hefyd, ond dim ond yr un frown allan o'r 5 sydd byth yn nofio. Credu mae Muscovy yw'r 4 gwyn/du/llwyd, a Mallard yw'r un frown.

Delwedd

Rhywun yn gwybod pa fath o blanhigion mae hwyaid yn hoffi? Neu pa blanhigion sy'n dda i'w plannu o amgylch y pwll?

Yw ieir yn hoffi unrhyw blanhigion yn arbennig?

Diolch am unrhyw help, dechreuwr ydw i gyda'r pethe 'ma!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Hwyaid a Ieir?

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 17 Maw 2009 6:18 pm

Fel un a arferai gadw chwiaid galla i roi rhyw fath o ateb i chdi. Dydi o ddim ots pa fath o blanhigion y byddi di'n eu planu, peth pwysica ydi eu bod nhw'n denu rhyw drychfilod a phryfaid - e.e. mae chwiaid wrth eu boddau efo slygs (ia, go wir). Wneith unrhyw fath o blanhigion sy'n dueddol o dyfu o amgylch y gwlyptir yn iawn iddyn nhw, ond mae hefyd yn eitha pwysig roi bwyd iddyn nhw hefyd (unrhyw pellets ieir wneith tro).
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Hwyaid a Ieir?

Postiogan sian » Maw 17 Maw 2009 9:56 pm

Grêt!
Ai'r un frown sy'n pallu gadel i'r lleill nofio - neu jest dewis peidio maen nhw?
Beth am gadnoed? Odych chi'n gorfod eu cau nhw i mewn yn y nos?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Hwyaid a Ieir?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 17 Maw 2009 10:32 pm

Diolch am y tips hogyn!

Sian, o'r hyn wy'n deall, mae hwyaid dof i gyd yn ddisgynyddion o'r Muscovy neu Mallard gwyllt. Er mai hwyaid yw'r ddau, mae geneteg Muscovy yn debycach i ŵydd, a petasai hwyaden gyffredin yn cyplu gyda hwyaden Muscovy, byddai mul/hybrid yn cael ei eni, gan ei bod mor wahanol!

Beth bynnag, am rhyw reswm, dyw hwyaid sy'n ddisgynyddion o'r Muscovy, ddim yn hoff iawn o nofio ac yn dawel, lle mae hwyaid sy'n hanu o Mallard yn byw a bod mewn pwll, ac yn swnllyd iawn! Er hyn ma nhw'n dod 'mlaen yn dda iawn gyda'u gilydd!

Dwi wedi cau yr hwyaid mewn ardal eithaf mawr, gan ddefnyddio ffens gyda thyllau bach. Wnes i roi gwaelod y ffens yn y ddaear, a rhoi cerrig ar hyd y gwaelod i atal cadnoid rhag palu oddi tano. Roedd rhaid i mi hefyd roi mesh plastig uwchben yr ardal, achos fe wnaeth dau hedfan i ffwrdd. Wnes i lwyddo dal un ond ddim y llall! Yn anffodus does dim gobaith ganddo nhw fyw yn y gwyllt, felly mae'r un wnaeth lwyddo dianc wedi gadael y ddaear 'ma erbyn hyn mwy na thebyg :crio: Mae modd torri'r adenydd ar un ochr i'w hatal rhag hedfan bant, ond ni ddim am wneud hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Hwyaid a Ieir?

Postiogan Dili Minllyn » Llun 06 Ebr 2009 9:23 am

Os byddwch chi byth yn ardal Llwydlo, mae pobl Casgliad Ieir Prin Wernlas yn Onibury yn gallu rhoi cyngor am gadw ieir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni


Dychwelyd i Anifeiliaid

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai