gan Duw » Gwe 27 Maw 2009 5:45 pm
Dwi'm gwybod os ydy wisdom teeth yn cael ei ystyried fel 'throwback' go iawn. Bydde'r rhain dal yn ddefnyddiol nol 200 mlynedd yn ol, pan nad oedd gofal deintyddol yn gyffredin. Dyw'r ffaith bo bodau dynol nawr yn defnyddio sylweddau i glanhau'r dannedd, hyliafu gwrth-setpig i ladd microorganebau dinistriol, mynd i'r deintydd yn gyson er mwyn llenwi dannedd pwdwr, ddim yn meddwl bo derbyn dannedd i'n cynnal nes ymlaen yn ein bywydau yn annilys. Os oedd gofal deintyddol yn diflannu dros nos, dwi'n meddwl bydde wisdom teeth yn arbennig o ddefnyddiol (er efalle byddent yn lladd nifer o oedolion wrth achosi heintiau ar eu ffordd allan).
Rhaid dweud, yr enghraifft mwya diddorol i mi yw'r llygad. Hollol boncyrs yn y ffordd mae wedi'i hadeiladu. Mae'r wyneb i waered - enghraifft o gannoedd o gyfaddawdau dros amser - 'best fixes' o fwtaniaeth i fwtaniaeth. Trueni bod Rooney wedi dod mas o'r closet.